Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid syn hyn, gan ei fod yn gyfleustra mor newydd i fechgyn a genethod oedd yn sychedig am wybodaeth gerddorol. Ond nid oedd hyn yn gweithio'n foddhaol yng ngolwg y senedd—ni ddeuai i fyny a'u delfryd hwy, a chreai anniddigrwydd ynddynt. I yrru'r 'llin' hwn oedd yn mygu'n waeth, yr oedd y Doctor yn lled ddibris o'i safle ac o safle y Coleg. Byddai galw mawr amdano i feirniadu a chanu mewn cyngherddau o Gaergybi i Gaerdydd. Byddai yn aml am ddyddiau'n olynol heb fod yn agos i'r lle—yr efrydwyr heb ddim i'w wneuthur ond cerdded yr ystrydoedd -y dosbarthiadau wedi peidio. Yna cwynent wrth y Prifathro nad oeddynt yn cael eu gwersi, ac nad iawn iddynt orfod talu am beth nad oeddynt yn ei dderbyn. Yna galwai'r Prifathro sylw'r Doctor at y mater—at ei ddyletswydd i'r efrydwyr ac i'r Coleg. Ond ni thyciai ddim: dywedai fod ganddo gystal hawl i fynd led y wlad gyda cherddoriaeth ag oedd gan y Prifathro i fynd led-led gwlad i bregethu!

"Bu'n rhaid dwyn y pethau hyn o flaen y 'senedd.' Aeth y 'llin yn mygu' yn fflam. Diorseddwyd y Doctor, a thaflwyd yr adran gerddorol allan o gynllun yr Athrofa yn llwyr. Dyna'r argraff adawyd ar y wlad ar y pryd: pa faint o hyn sydd yn llythrennol gywir, nid wyf yn sicr yn awr."

Er mai "yr argraff adawyd ar y wlad " a roddir i ni gan Mr. Rees, y mae'n cydgordio (fel achos) â'r penderfyniad uchod (fel effaith), hynny yw, a chaniatáu fod yr amgylchiadau fel y'u disgrifir ganddo, nid annaturiol disgwyl iddynt arwain i benderfyniad tebyg i'r cyntaf uchod.

Ond y mae gennym yn ddiweddarach dystiolaethau o'r tu mewn i'r Cyngor, sef eiddo y Prifathro, ynghydag Ysgrifennydd a Thrysorydd y Coleg. Yn y dystysgrif y dyfynnwyd eisoes ohoni, dywed y Prifathro ymhellach: "Rhoddwyd i fyny ddysgu cerddoriaeth yn y Coleg, pryd yr oedd ein trysorfa yn isel iawn i gario'r gwaith ymlaen. Gadawodd yr Athro mewn daeareg am yr un rheswm."

Meddai Syr Lewis Morris: "Fel diweddar Ysgrifennydd Mygedol Coleg Prifysgol Cymru, gwn gymaint oedd gofid y Gyngor pryd y gorfodwyd hwy i roddi i fyny adran