Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mil o fân reolau. Yn ol y diweddar Dr. Gunsaulus y mae yna ddwy gyfundrefn addysg yn ein gwlad—cyfundrefn y cronni, ac un y ffynnon yn tarddu: un yn sych ac anniddorol, a'r llall yn gwneuthur i'r disgybl roi o'i oreu, bron yn ddiarwybod iddo. Bid siwr, y mae yn rhaid wrth reolau. Nid oedd Beethoven yn llai artist am y gwyddai reolau cynghanedd a gwrthbwynt. Fe ŵyr y gwir artist faint o gymysgedd o goch a gwyrdd gynhyrcha liw arall. 'The universe is an orderly one'; rhaid wrth reol, ond ni ddylai hyd yn oed rheol fod yn llyffethair. Gwna law-forwyn ddengar i lunio ac nid i orfodi, tywys ac nid gyrru.

"Feallai nad oedd Parry o'r anianawd honno a fedrai gymryd llawer o boen i ddatblygu unrhyw beth. Yr oedd mor llawn o'r awen ei hun, fel yr oedd yn frysiog ar adegau pan yn edrych dros wersi ei efrydwyr. Fe geir amryw athrawon enwog fel gwyddegwyr, rhai yn fanwl yn neddfau a rheolau y gelf, ond yn gwbl amddifad o'r awen. Fe allant ddadansoddi a datrys unrhyw broblem gynganeddol neu wrthbwyntiol, ond ni fedrant greu bar o wir gerddoriaeth.

"Ond os mai neges uwchaf addysg ydyw deffro delweddau, eangu amgyffredion, tynnu allan, rhoi ysbrydoliaeth, cynneu tân ar allor y gerdd, yna yr oedd Parry yn llwyddiannus. Fe ddywed hen ddiareb Chineaidd mai 'Nid cri, ond ehediad yr hwyaden wyllt sydd yn gwneuthur i'r holl braidd ei dilyn.' Dyna nodau y gwir athro.

Oes y specialist yw hi yn awr. Ond yr oedd talentau cerddorol Parry yn amlochrog, a rhoddai wersi ar wahanol ganghennau y gelfyddyd, y piano, yr organ, cyfansoddiant, a'r llais. Yr oedd ganddo efrydwyr llwyddiannus ymhob adran; ond, efallai mai ei ddylanwad ar gyfansoddwyr adawodd fwyaf o argraff. Gellir ategu hyn ond edrych ar lwyddiant ei efrydwyr—David Jenkins, William Davies, Maldwyn Price, J. T. Rees, D. C. Williams, prif gyfansoddwyr Cymreig eu cyfnod."

Dyma ddywed Emlyn, yr hwn oedd feirniad craff a gonest, ac yn un na chanmolai heb reswm, pan yn pwysleisio'r pwynt y dylai ein colegau cenedlaethol fod yn ganolbynciau o addysg a dylanwad cerddorol, ac yn