Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cerddorol, y rhai a droai allan nid yn unig gerddorion dysgedig, ond rhai yn meddu ar allu creol. Yna meddai: "Y mae'r un angen am goleg cerddorol ag y sydd am brifysgol ar Gymru. Y mae cenhedloedd eraill wedi ffurfio arddull neu 'ysgol' genedlaethol, ac yr ydwyf yn clywed ar brydiau fod ein nodweddion cenedlaethol ni yn mynd i golli dan ddylanwadau tramor, yn lle cael eu datblygu. Y mae cerddoriaeth yn gyffredinol, mae'n wir, ac y mae astudiaeth o'i holl arddulliau yn fanteisiol, a hyd yn oed yn angenrheidiol; eto, os cyfrennir yr addysg yn ein gwlad ein hunain, a than ddylanwadau cenedlaethol, ac os argreffir arni ein nodweddion cenedlaethol, y mae'n bosibl cynhyrchu arddull neu ysgol gerddorol fyddo yn sylfaenedig ar y [1]teithi teimladol, addolgar, barddonol, ac uchel—ddramayddol hynny a esyd arbenigrwydd a gwerth ar ein natur. Ni fedraf wneuthur hynny fy hunan—y mae ffrwyth o'r fath yn gynnyrch oesoedd. Dymunaf yn unig daro'r cyweirnod, fel petai, neu ynteu osod i lawr garreg gyntaf yr adeilad. Y mae yn gorffwys arnoch chwi, eglwysi, eisteddfodau, a cherddgarwyr, i wneuthur y fath goleg yn llwyddiant, ac i ddanfon y nifer o efrydwyr iddo, ag a fyddo'n galw am ychwanegiad cyfatebol yn rhif yr athrawon." Yna daw y cyfeiriad at Goleg Aberystwyth a ddyfynnwyd eisoes, a chynhygia ei "wasanaeth gostyngedig" i gwblhau y gwaith—yn ddechreuol. Terfyna trwy bwysleisio mai y prif angen yn bresennol yw'r angen am athrawon disgybledig, a chyfeirio at natur a manylion yr addysg yn y coleg —y byddai arholiadau blynyddol, gwobrwyon a thlysau, tair ysgoloriaeth yn flynyddol mewn canu, offerynnu, a chyfansoddi. Ynglŷn â hyn, gobeithiai y byddai corau blaenaf y dywysogaeth yn cynnyg ysgoloriaethau i gystadlu amdanynt gan brif aelodau o'r corau'n unig, ac y byddai'r eisteddfodau yn dilyn yn yr un llwybr.

Hysbysebid yn ddiweddarach y byddai wyth dosbarth yng ngwahanol ganghennau cerddoriaeth—

  1. ''Gems" yw'r gwreiddiol: mentrais ei gyfieithu fel uchod er mwyn osgoi'r hyn a eilw'r beirdd yn gymysgu flugrau; ond efallai mai Datguddiad xxi, 19 oedd ym meddwl yr awdur.