Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu rhesymau, yn awr dylai'r wlad gael rhesymau y ddau Ddoctor." Yn fuan ar ol hyn cyhoeddwyd beirniadaeth Parry yn " Yr Ysgol Gerddorol," ac ar ol cymhariaeth fanwl o wahanol rannau y ddau gyfansoddiad, terfyna drwy ddywedyd fod "Clementi" o arddull secular llithrig, ac ysgafn, tra y mae "Palestrina " yn fwy aruchel a mawreddog, a'i gerddoriaeth wedi dod o galon fwy cysegredig, ac yn cynnwys mwy o amrywiaeth, gwreiddiolder, ac o ansawdd mwy myfyrgar."

Y mae ei feirniadaeth ar gantodau Merthyr ar yr un llinellau. Wedi cymharu y pedwar cyfansoddiad ddaeth i law ran a rhan, terfyna ei feirniadaeth fel y canlyn:- "Ar ol darlleniad manwl o'r cyfansoddiadau hyn a sylwi arnynt yn gyfochrog drwy bob rhifyn o'r gwaith . . . y cwestiwn mawr a phwysig yn awr ydyw pwyso y goreu yn ol teilyngdod y wobr fawr a'r bathodyn aur a roddir ynghyda'r achlysur pwysig a beirniadol y dygir y gwaith allan yn Llundain gan gôr Cymreig y brif-ddinas. Cyn dyfod at y gorchwyl pwysig o benderfynu hyn chwareuais yr oreu drosodd drachefn, ac ar ol dwys ystyriaeth fy marn ddifrifol a gonest yw, nad oes yn y goreu anadl einioes, ac nad ydyw y wreichionen nefol wedi disgyn i danio yr offrwm ar allor oer celfyddyd, fel y mae fy marn a'm dyletswydd yn fy ngorfodi i wneuthur y gorchwyl blin a thra annymunol o atal y wobr.

"Ar air a chydwybod

"Awst 27, 1881.
JOSEPH PARRY."


Pan hysbyswyd y penderfyniad, dechreuodd y "drin," a chan fod golygydd "Cronicl y Cerddor" yng nghanol yr helynt, ac mewn cyffyrddiad â'r pleidiau, ac yn ŵr o graffter a gonestrwydd, ni a gymerwn ei farn ef ar y mater, ynghyd a'i adroddiad o'r hanes pellach. Yn rhifyn Rhagfyr, 1881, darllenwn:

Justice, though her doom she do prolong,
Yet at the last will make her own cause right.

"Er ein bod yn dra gwrthwynebus i ddwyn unrhyw beth ag sydd yn sawru o fod yn bersonol i faes y 'Cronicl'