Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o suddo ar rai o'r creigiau anodd eu morio yn y gwaith. Ond y cyfansoddwr oedd yn llywyddu, ac yr oedd yn bopeth i bawb yn y côr a'r gerddorfa. Ar yr un pryd, cafodd Dr. Parry gefnogaeth a derbyniad calonnog iawn, a rhaid fod ei galon yn llamu o lawenydd wrth weld y fath gynulleidfa yn ei longyfarch. Curent a chalonogent bob ysgogiad a symudiad o'i eiddo. Yr oeddynt lawer pryd yn rhy frwdfrydig; y mae yn bosibl i gyfeillion, drwy ormod sêl, niweidio yr hwn yr hoffent ei anrhydeddu. Yr oedd effaith amryw o'r symudiadau goreu yn y gwaith yn cael ei golli, i raddau, oherwydd curiadau traed a dwylo dosbarth o'r gwrandawyr, a hynny ar ganol darnau pwysig. . . .

"Er i amryw o rifynnau gael eu gadael allan, parhaodd y perfformiad am dair awr. Y mae hynny'n rhy hir i gynulleidfa gymysg, er i'r mwyafrif eistedd y cwbl allan." Y mae'n amlwg fod y côr cymharol ieuanc yn annigonol i waith o'r fath; dylasai gael côr o trained veterans, rhai wedi eu caledu yn gystal a'u hystwytho gan ddisgyblaeth. galed ac ymarferiad hir i ddal pwysau y fath ddatganiad. Buasai'r gymdeithas henach yn ddiau'n fwy addas i'r gwaith. Deuai rhai o'r aelodau hynny i helpu. Heblaw hyn cai Parry fenthyg nifer o ferched neu ynteu o fechgyn cyfarwydd o'r Tabernacl, Treforris, neu Siloh, Glandwr, fel y byddai'r eisiau. Y mae'n naturiol fod yna ryw gymaint o gydymgais rhwng aelodau dau gôr Abertawe, ond nid oedd rhwng y ddau arweinydd; sicrheir fi fod Eos Morlais bob amser yn barod i wneuthur popeth yn ei allu i gynorthwyo Dr. Parry. Diddorol sylwi yn y fan hon i Gor yr Eisteddfod Genedlaethol, 1891, dan arweiniad Eos Morlais, roddi perfformiad o'r gwaith "Emmanuel " yn un o gyngherddau'r Eisteddfod.

Ond os oedd y côr yn "wan ac ansicr," y mae'n amlwg fod Parry'n alluog a sicr fel arweinydd, a bod hyd yn oed y côr (os nad y gerddorfa) yn rhoddi mantais iddo ddangos ei nerth yn eu gwendid hwy. Meddai ef i raddau helaeth ond annibynadwy yn ei eiriau ei hun-"allu creol arweinydd sydd yn meddu grym atyniadol dros ei holl adnoddau lleisiol ac offerynnol." Yn ol y disgrifiad yna o arweinydd effeithiol, ni ellir arweinydd o bob cerddor,