XVII. Y Llyfr Tonau Cenedlaethol.
HYSBYSA Dr. Parry mewn cylch-lythyr yn 1898 fod ei Lyfr Tonau Cenedlaethol ar ol pymtheng mlynedd o lafur yn barod i'r wasg, a'i fod wedi ei amcanu fel cydymaith neu ychwanegiad cenedlaethol "i'r casgliadau eraill oedd ar y maes eisoes; ac y dibynna cyhoeddiad y llyfr ar yr atebion dderbynnir oddiwrth bwyllgorau yr holl gyfundebau, sef yr Eglwys, y Bedyddwyr, y Methodistiaid, y Wesleaid, a'r Annibynwyr."
"Ar ol pymtheng mlynedd o lafur": os felly dechreuodd ar y gwaith yn 1883, nid yn yr ystyr, bid siwr, na chyfansoddodd lawer o donau cyn hynny, ond mai y pryd hwnnw, drwy gymhelliad Dr. Rees, y meddiannwyd ef gan y syniad o Lyfr Tonau Cenedlaethol, ac yr ymrodd i'w gynhyrchu[1] (a'i atgynhyrchu). Cynnyg newydd ar eu dwyn allan—yn awr yn orffenedig yn unig a geir yn y cylch-lythyr uchod; canys dechreuodd gyhoeddi ei donau dan yr enw "Llyfr Tonau Cynulleidfaol Cenedlaethol Cymru " yn 1887, ac ymddangosodd pedwar rhifyn. Ynglŷn â hwnnw dywed ei fod ers blynyddoedd wedi amcanu partoi 'Llyfr Tonau Cenedlaethol i'r Cymry,' ac wedi cyfansoddi ugeiniau o donau ar wahanol fesurau angenrheidiol, a bod ganddo dri amcan arbennig, sef, cyfansoddi tonau o arddull Cymreig, llawn o dân a mawl Cymroaidd ; dwyn i mewn i ganiadaeth y cysegr elfennau mydryddol eraill, er mwyn dwyn amseriad darlleniadol mwy amrywiol o'r emynau; a nodi pob llinell a syniad yn yr emyn, er ennill unffurfiaeth ac unoliaeth yn natganiad a darlleniad y dôn a'r emyn.
- ↑ Yn ôl ysgrif o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News" (Tachwedd, 1887): "The writer is now devoting much of his time to composing, compiling, rearranging and better combining hymns and tunes. He is reviving the purely old Welsh Chorale, and expanding and maturing the true Welsh spirit by collecting and arranging all the old Welsh tunes, and composing many of his own in all metres in the same spirit, style, and devotional warmth. In short, he is getting up a national tune book for Wales." 147