Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dda i ni geisio dysgu ei anthem goffawdwriaethol i'r Gohebydd,' a chymryd mwy o amser nag a dybiai ef oedd eisiau. Disgwyliai i ni ganu y cyfansoddiad prydferth bron ar yr olwg gyntaf, ond nid oedd ein galluoedd fel côr i fyny â'i ddisgwyliad, a'r canlyniad fu i ni roddi yr anthem o'r neilltu.

"Gwelsom ef felly hefyd gyda'r Philharmonic Society yn y Coleg, a phan y byddai y diweddar annwyl Tom Stephens yn ein harwain, gwnaed llawer mwy o waith yn y rehearsal. Am resymau tebyg i hyn yn ddiameu, dywedid yn aml y byddai yn llawer gwell er mwyn gweithiau Dr. Parry pe ceid rhywun arall i'w harwain. Efallai fod hyn yn wir mewn rhan. Ond cofiaf ef yn gwneuthur gwrhydri ar adegau eraill. Ar y Groglith, 1889, yr oedd yn arwain cymanfa y Methodistiaid yng nghapel Pembroke Terrace, Caerdydd, ac yr oedd mewn hwyl nodedig o hapus. Mewn gair, yr oedd awyrgylch y gymanfa trwy'r dydd yn hynod o ffafriol i addoli. Yr oedd y canu yn dda iawn i gyd, ond cyrhaeddwyd y climax wrth ddatganu y dôn 'Gethsemane' (Schop) ar y geiriau Saesneg, 'Rock of Ages, cleft for me.' Ni chlywais gystal canu erioed, ac nid wyf yn disgwyl clywed ei well yn y byd hwn. Erys y canu hwnnw yn fy nghof ac yn fy enaid dros byth, mi dybiaf, ac y mae ers blynyddoedd wedi mynd yn rhan o'm profiad dyfnaf. "Er siomedigaeth fawr, rhoddodd yr hybarch Ddoctor y gwaith yn Ebenezer i fyny bron gyda dechreu, ond gadawodd ei ôl ar y canu cynulleidfaol am ysbaid hir. Heddwch i'w lwch, ym mynwent Penarth, hyd fore'r codi.

E. R. GRONOW."