Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwareudy, yn bennaf drwy enau y Parch. F. C. Spurr, yr hwn a wnaeth brotest gyhoeddus yn erbyn y peth un nos Sul. "Nid wyf," meddai, "yn beirniadu Dr. Parry na'i operäu. Ond yr wyf yn enw Duw yn gwneuthur protest ddifrifol ac angherddol yn erbyn yr holl fusnes." Y mae ei brotest gyntaf fel y rhoddir hi yn y papurau braidd yn amhenodol, gan y dywed nad oes ganddo wrthwynebiad i'r operäu fel y cyfryw; ond ymddengys yn ddiweddarach fod y perfformwyr yn aelodau eglwysig—"genod yn hoff o ganu" o'r gwahanol enwadau, merch i weinidog annibynnol, merch i glerigwr, merched blaenoriaid Methodistaidd, etc., a bod ei brif wrthwynebiad i berthynas y rheiny â'r chwareudy, ei awyrgylch a'i gysylltiadau, Bu ysgrifennu lawer yn y papurau ar y mater, ac ymddangosodd y ddau eithafion, fel arfer: y naill yn cymeradwyo cicio'r bêl droed, etc. ar y Sul, a'r llall yn condemnio dyganu (chanting) yn y gwasanaeth! Cynrychiolir y "golden mean" gan un o olygyddion y "Cerddor": "Tra nad wyf yn credu fod unrhyw un a ddygwyd i fyny yn awyrgylch foesol a chrefyddol Cymru yn debyg o gefnogi'r gŵr parchedig na wel wrthwynebiad i chwarae'r bel droed, cricket, etc. ar y Saboth; y mae yn sicr, lawer ohonom na ânt i eithafion gwrthgyferbyniol y boneddwr a noda ddyganiaeth, cantodau, operäu, operetau, etc. fel rhai o brif ddrygau'r oes. Ni allaf ddyfalu ar ba dir y condemnir y flaenaf; am y rhelyw y mae cantodau a chantodau, operäu ac operäu, etc.; ac os condemnir y ddygan a'r gantawd, paham lai hefyd na wneir yr anthem a'r dôn, y cymanfaoedd canu, a cherddoriaeth yn hollol?

"Ynglŷn â pherfformiadau o'r opera mewn chwareudai y mae cryn lawer i'w ddywedyd o du y gwrthwynebwyr, gan y daw y cysylltiadau' i mewn yma eto; ni allwn gau ein llygaid i'r ffaith fod awyrgylch moesol ein mân chwareudai, a chymeriadau isel llawer o'r mynychwyr, yn gyfryw ag na allant effeithio'n ddaionus ar fechgyn a merched ieuainc dibrofiad yn ffyrdd y byd. Yn yr hwrli-bwrli presennol mewn cysylltiad â pherfformiad diweddar rhai operäu Cymreig rhaid i mi ddatgan fy marn fod cryn dipyn o ffoledd wedi ei ddywedyd a'i ysgrifennu o'r ddau du; ond credaf mai nid drwy fynd i eithafion y