Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ONIBAI am yr angen, y cyfeiriwyd ato eisoes, am wneuthur ei weithiau mawr yn brif landmarks ei hanes, byddai y teitl "Gwawr a Chysgod " neu "Tes a Chawod yn briodol iawn uwchben y bennod hon. Yn ei Hunan-gofiant fe ddywed Dr. Horton, fel y sylwyd, fod yna brofedigaeth ar gyfer llawenydd yn ei fywyd fel rheol, "fel na'i tra dyrchefid"; ond y mae'r un mor ysgrythyrol i ddywedyd fod yna lawenydd ar gyfer profedigaeth hefyd, fel y cân Hiraethog:

Os y ddafad barai flinder,
Poen a phryder fore a hwyr,
Trefnid Tango ar ei chyfer,
Rhag fy nigalonni'n llwyr.

Felly y bu hi gyda Parry: ar ol yr ysgarmes Biwritanaidd ac ymosodiad "Zetus," diau ei bod yn achos o foddhad pur iawn iddo i'w hen gyfeillion a chyd-drefwyr yn Abertawe drefnu agor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1891 drwy i'r côr ganu ei "Faesgarmon," a gorffen y gweithrediadau drwy ddatganu ei Emmanuel yn y cyngerdd olaf, dan arweiniad Eos Morlais. Yn yr eisteddfod hon hefyd yr oedd "Cytgan y Pererinion (heblaw rhai pethau eraill yn gystadleuol,—cytgan a brawf nad oedd ffynonellau ei ysbrydoliaeth yn pallu gyda threigl y blynyddoedd. Ac er mai claear oedd y clod a roddwyd i'w "Nebuchadnezzar" gan y papurau Saesneg pan ddatganwyd y gantawd yn Llundain ychydig cyn hyn, rhoddwyd gwaith cerddorfaol newydd o'i eiddo yn un o gyngherddau Mr. Stockley yn Birmingham gyda chymeradwyaeth mawr. Darn ydyw yn portreadu cwsg—"Tone Picture"—am yr hwn y dywedai y "Gazette" ei fod "yn sylweddoli y meddylddrych barddonol mewn dull tra hapus, ac iddo gynhyrchu effaith rhagorol, a chael derbyniad neilltuol o ffafriol."

Yn nechreu 1892 penderfynodd pwyllgor Gwyl Gerddorol Caerdydd berfformio Saul o Tarsus" (Parry), gyda'r prif weithiau eraill ("Messiah," "Elijah," etc.); ac ymgymerodd ef, gyda'r Mri. Aylward a Scott â phartoi y côr. Ond gyda'i fod yn dechreu ar y gwaith daeth i'w gyfarfod brofedigaeth chwerw iawn, un barodd iddo friw