on—Tyne, cymeradwyid rhifyn ar ol rhifyn, a bu rhaid ail—ganu rhai, a disgrifiad y "Newcastle Chronicle" o'r gwaith ei hun yw, a masterly and scholarly production, which entitles the author to rank high amongst eminent modern composers."
Yn nechreu 1893 dechreuodd ar y gwaith o ddwyn allan y "Cambrian Minstrelsie" (Alawon Gwalia) fel cydymaith i'r "Scots Minstrelsie"—dros T. C. & E. O. Jack, Edinburgh. Ei gyd—olygydd oedd Dewi Môn. Ymddangosodd y gyfrol olaf (VI) yn nechreu 1895. Yr oedd yn waith mawr ysgrifennu cyfeiliannau i gynifer o alawon—tua thrigain ymhob cyfrol; ond o ran Parry buasai'r gwaith wedi ei orffen lawer yn gynt. Y mae y rhagymadrodd i'r casgliad yn amherffaith ac annigonol. Ceir hefyd ddwy gân gan y golygydd, un ar y dechreu, ac un ar ddiwedd pob cyfrol, yr hyn yn ddiau sydd yn gamsyniad, er i Brinley Richards ac Owain Alaw wneuthur yr un peth. Am y rhelyw, medd y "Cerddor," "Nid oes brin angen nodi fod ôl llaw y cerddor profiadol a gorffenedig ar y cyfeiliannau; fel rheol y maent yn amrywiaethol a diddorol, ac yn gydnaws â theithi'r alawon, heb fod yn rhy deneu ar y naill law, fel eiddo Brinley Richards yn ei 'Songs of Wales,' nac yn rhy drwmlwythog fel rhai sydd wedi bod o dan ein sylw'n ddiweddar. Ceir un eithriad i hyn yng 'Nghlychau Aberdyfi.' . . . . Cymerir rhyddid hefyd gyda darlleniad yr alaw . . . Alaw arall ag y cymerir rhyddid anwarantedig gyda hi—yr hyn y rhaid i ni fel mater o ddyletswydd tuag at ein hen alawon ei gondemnio'n groyw—yw 'Y Deryn Pur.' . . . Honnwn nad oes gan neb pwy bynnag hawl i wneuthur y cyfnewidiadau mympwyol hyn i foddio 'cywreinrwydd ysgolheigol,' neu ryw deimlad arall; ac os y goddefir y tincera hyn gan un, pa beth sydd i rwystro eraill rhag dod â'u gwelliannau hwythau i mewn? Gydag eithrio hynyna y mae trefniad yr alaw hyfryd hon yn hapus iawn. Ceir yn y casgliad amryw alawon swynol nad ydynt i'w cael wedi eu trefnu i'r llais yn ein casgliadau cyffredin."