Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chariad, gyda'r canlyniad ei bod yn syrthio i lawr yn farw, a'i hysbryd yn dianc i'w gynefin at ei chwmni ei hun, a welir yn ei derbyn â breichiau agored. Perfformiwyd yr opera eilwaith yn 1897 (ynghydag "Arianwen ") gan y Welsh National Opera Company, dan arweiniad Mr. Mendelssohn Parry-gyda llwyddiant hollol ymhob ystyr ond ym mhresenoldeb y cyhoedd.