Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sir John Stainer: "Dr. Joseph Parry has proved himself to be an able and sound musician."

H. Weist Hill (Principal, Guildhall School of Music): "I have the pleasure to certify from personal knowledge that Dr. Parry possesses the highest qualifications as a theoretical musician, composer, and excellent conductor. Having heard Dr. Joseph Parry's oratorio Emmanuel,' conducted by him in St. James's Hall, London, I can conscientiously speak of him as a most accomplished musician."

Signor Randegger: "I have watched your career with much interest ever since you were a distinguished student at our Royal Academy of Music, and I consider that as a composer, a conductor, and a learned and enthusiastic musician, you are not only an honour to the Institution where you received your musical education, but also to the principality, which is so rich in musical notabilities."

Yr oedd deunaw ar hugain o ymgeiswyr, ac yn eu plith— heblaw Parry—Lee Williams, Caerloyw, a Roland Rogers, Bangor. Daeth Parry a Lee Williams allan ymysg y deg uchaf yn y pleidleisiad cyntaf; ond y pump a ddewis— wyd wedyn allan o'r deg hyn oedd: W. H. Cummings, A. J. Caldicott, W. H. Thomas, E. H. Turpin, ac F. Sawyer. Yr oedd y balot terfynol rhwng Cummings a Thomas, ac o'r ddau hyn etholwyd Cummings.

Ni wyddom gan ba deimlad neu amcan yr ysgogid Parry i ymgeisio am y swydd hon. Ni allwn ddychmygu am foment ei fod yn troi ei gefn ar Gymru a'i buddiannau'n fwy na llawer o Gymry eraill sydd yn byw'n y Brifddinas; ond efallai y teimlai'n siomedig am na welai obaith sylweddoli ei ddelfryd o addysg gerddorol, nac ychwaith o'i godi yntau o fod yn ddarlithydd i fod yn athro. Beth bynnag am hyn, gallwn fod yn sicr mai hyfryd ydoedd iddo droi ei gefn ar wrthodiad y Saeson o'i wasanaeth, a mynd i Landudno ychydig yn ddiweddarach i dderbyn prawf mewn tysteb o werthfawrogiad ei gyd—genedl o'i wasanaeth iddi hi yn y gorffennol. Datganwyd ei gantawd "Cambria," a chyflwynwyd y dysteb iddo yn yr un cyngerdd, a'r ddau gyda brwdfrydedd. Swm y dysteb oedd £630; ac er nad oedd hyn yn swm mawr i'r genedl,