Grisial yn 1897. Yn 1896 neilltuwyd cyfran o'r wyl i ddatganu cerddoriaeth Gymreig, yn bennaf "Psalm of Life" yr Athro Jenkins, a throdd yr anturiaeth allan yn llwyddiant digymysg. Ond nid felly 1897, oblegid gwaith Parry'n trefnu rhaglen fratiog o rannau o'i weithiau, ac esgeulustod arweinwyr a chorau i'w dysgu, ynghyd ag esgeulustod rhywrai i'w gyrru i'r corau mewn pryd. Ynglŷn â hyn daw diffyg callineb Parry i'r golwg—ac wrth gallineb y golygwn ystyriaeth o amgylchiadau fel ag i bartoi ar eu cyfer. Dyma iaith callineb arweinydd yr ŵyl flaenorol (1896) "Ar y dechreu yr oedd gennym amcan go dda beth allasai yr arweinyddion wneuthur oeddem wedi ddewis, ynghyda'r lleisiau oedd yn y dosbarthau; ac y mae'r perfformiad wedi profi ein bod yn iawn. Yr oedd ffyddlondeb yr arweinyddion, ac eiddgarwch y cantorion tuhwnt i amheuaeth, ac ar hyn yr oedd y cwbl yn ymddibynnu.
"Y mae yna ffaith arall wedi dod i'r golwg, nad oes rhaid i gerddorion Cymreig ymddibynnu ar y rhai a ystyria eu hunain yn brif gorau am berfformiad teilwng o'u gweithiau."
Ond yn 1897, er yr hysbysid y rhifai y côr 4000, y gerddorfa 250, ac y byddai wyth seindorf bres yn canu; ni ddaeth ynghyd ond tua 2500 o leiswyr, a phedair o seindyrf, tra yr oedd y gerddorfa ymhell o fod yn llawn. Yn anffodus, hefyd, mynnai Parry rannu'r lleisiau, yn lle eu cadw'n gyfangorff cryf, fel y gwneir yng Ngŵyl Handel, —yr unig ddull effeithiol yn y lle. Ac yn olaf ni fu'n gall yn ei ddewisiad o arweinyddion a chantorion; meddyliai gynhyrchu effaith mawr yn ddiau gyda'i luoedd, ond y gwaethaf yw, nid oeddynt wedi dysgu'r darnau, yn neilltuol Cambria." Ond aeth y "Tone—poem " yn dda, ynghyd â'r darnau adnabyddus "Cytgan y Pererinion," a "Thoriad Dydd ar Gymru."
Yn 1897 y cyfansoddodd ei operetta ddigrif, "Cap and Gown," ddisgrifiadol o fywyd coleg.