Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIII. Dinas y Llyn Halen.

Hunan-gofiant:

1898 Cei di, Amser, fi ar yr aden i Eisteddfod Dinas y Llyn Halen (Utah), yn y Mormon Tabernacle (fy unfed mordaith ar ddeg) ar fwrdd y Campania. Unwaith eto ymwelaf â chwi, fy mherthnasau agos, a'm cyfeillion yn Pennsylvania, yn gystal ag yn Ohio; a chwithau fy nghefn— dryd yn Tennessee, eich teuluoedd, a'ch ŵyrion, ar ol saith mlynedd ar hugain o absenoldeb! Y mae y cynulliadau teuluaidd a chanu hen donau Danville, yr ymddiddanion i'r gramaphone—i'w danfon drosodd i Gymru i'm priod a'm plant yng nghanol ein dagrau (ac y mae ein teuluoedd rywsut yn dra theimladol) yn awr yn eu hail-adrodd eu hunain fel adnodau effeithiol ym mhennod faith bywyd. Gadawaf chwi nos Fawrth gyda'r trên wyth am Louisville, Kentucky, gan gymryd fy ngherbyd cysgu fel arfer, a chaf fy mrecwast fore dydd Mercher yn Louisville. Yr ydym ar wib i'r gorllewin, a chyrhaeddwn St. Louis, Missouri, bryd swper yr un dydd. Yma ceir depot godidog o ddim llai na deuddeg trên ar hugain, a dau esgynlawr ar bymtheg, yn barod i gychwyn i bob rhan o Gyfandir enfawr America. Gadawn tua hanner awr wedi wyth; af finnau i'm cerbyd cysgu, a chyrhaeddwn Ddinas Kansas erbyn brecwast y dydd canlynol (dydd Iau). Gan fod gennyf ddwy awr i aros yma, esgynnaf i gar trydan i gael golwg lawn ar y ddinas. Am ddeg ail—gychwynwn ar ein taith tua'r gorllewin, a'u cerbyd ciniawa gyda ni, a thrwy gydol y dydd gwibiwn dros y gwastatir dibendraw, ac mor dywodlyd fel ag i beri blinder mawr i lygaid a chlustiau. Af i'm cerbyd cysgu'r drydedd nos. Fore dydd Gwener am hanner awr wedi saith cyrhaeddwn Denver, Colorado; ac er fy syndod a'm llawenydd y mae yma hanner dwsin o'm cydwladwyr, a hen gyfaill, ynghyd â hen ddisgybl i mi yn Danville, yn fy nghyfarfod gyda cherbyd. Trefnir cwrdd croeso i mi'n