Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ag eithrio "Cambria," ni enwir yr un o'r gweithiau hyn yn y rhestr a ddenfyn i mewn fel ymgeisydd am y swydd o Brifathro yn y Guildhall School of Music yn 1896, fel y gellir teimlo'n sicr nad oeddynt ar gael y pryd hwnnw. Ennwyd "Cambria" mewn pennod flaenorol, ond rhoddwn hi yn y fan hon am ei bod yn perthyn i driawd hanesyddol— gyda Ceridwen" a "King Arthur."

Pan alwyd Parry, wedi perfformio "Sylvia" yn 1895, i ymddangos gerbron y gynulleidfa yn y Theatre Royal, Caerdydd, cyfeiriodd at ei fwriad i ysgrifennu chwareu-gerddi'n dal perthynas â Glyndwr, Llewelyn, ac Arthur, ar linell opera'r noson honno. Gwir fod "Sylvia" 'n dal perthynas â hanes, ond chwedlonol—carwriaethol ydyw'n bennaf. Gellir dywedyd fod "Blodwen" yn dal perthynas â hanes y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond eilradd hollol yw'r berthynas hon—yr hyn sydd yn ganolog yn y libretto yw'r nodwedd garwriaethol—filwrol, fel y gellir edrych arni fel yn perthyn i'r un dosbarth a Virginia," yr hon hefyd sydd yn garwriaethol—filwrol, er bod ei golygfeydd a'i chymeriadau'n perthyn i wlad arall. Perthyn y "Ferch o'r Scer" a'r "Ferch o Gefn Ydfa" wedyn i'r un dosbarth—dosbarth y rhamant garwriaethol. Yn yr un modd perthyn "Arianwen" a "His Worship the Mayor " yn agos i'w gilydd, er eu bod yn ymwneud â thestunau tra gwahanol, am mai yr elfen ddigrif sydd yn rhoddi eu cymeriad iddynt.

Pan berfformiwyd "Sylvia" yn 1895, diau fod partoadau ar gyfer Cambria" ar droed, ac fe ellid cysylltu y cyfeiriad at Arthur, Llewelyn, a Glyndwr yn arbennig â hi, a'r lle a gant ynddi; eto cywirach, y mae yn sicr, yw cysylltu'r cyfeiriad â bwriad ehangach o eiddo'r awdur i roddi opera i bob un ohonynt, ac iddo ddechreu'i weithio allan yn ddiweddarach gydag "Arthur a'i Farchogion." Eto perthyn y ddwy gantawd ddramayddol "Cambria" a "Ceridwen" i'r un dosbarth o weithiau "hanesyddol"—hanesyddol, hynny yw, nid yn yr ystyr o fod yn dal rhyw berthynas â hanes Cymru, ond yn yr ystyr o fod yn ymwneud â chymeriadau o faintioli cenedlaetnol, neu ddigwyddiadau oedd ar raddfa genedlaethol. Cymer