Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwy na neb o'i gydoeswyr yn ddiau dros ganiadaeth gorawl a gwybodaeth gerddorol yn Neheudir Cymru. Heblaw "Côr Llewelyn," ei gôr enwog ym Merthyr, yr oedd ganddo gorau bychain a dosbarthau cerddorol mewn mannau eraill—rhai mor bell a Chaerdydd. Yn 1845 cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o "Telyn Seion" y flwyddyn ar ol ymddangosiad y "Canor Dirwestol " (Tydfiyn). Yr oedd brawd yng nghyfraith Parry, Robert James, arweinydd y gân ym Methesda'n ddiweddarach, yn ddisgybl i Rosser Beynon, ond nid ymddengys fod Parry ei hun yn mynychu ei ddosbarth, er ei fod yn aelod o'i gôr. Arweinydd y gân yn Soar, ac Ynysgau yn ddiweddarach, oedd Mr. Beynon, tra yr ai Daniel a Beti Parry a'r plant i Fethesda.

Yr oedd y canu cynulleidfaol hefyd o ansawdd uchel. Meddai Asaph Glyn Ebwy yn ei "Adgofion" (1895): "Credaf fod cystal canu o ran quality yn llawer o gapeli ac eglwysi yr hen wlad hanner can mlynedd yn ol ag sydd ynddynt y dydd heddyw. Yr oedd y canu yn hen eglwys Merthyr, ac yng gwahanol gapeli y dref, dan arweiniad Ieuan Ddu, Asaph Glan Tâf, Tydfilyn, Robert James, Daniel Williams, ac eraill nad wyf ar hyn o bryd yn cofio eu henwau, yn treat i undyn ei wrando. ... Singing was singing in those days: nid bloeddio fel Indiaid i'r gad ydoedd, na chwaith garw ac aflafar fel melin gro yn malu cerrig; nage, eithr tyner megis awel falmaidd haf yn adfywio ac yn ireiddio ein hysbrydoedd, ac mor swynol a soniarus a'r delyn deir-res yn nwylo y diweddar enwog delynor Gruffydd, Llanover."

Ymddengys fod yna gyfnod newydd yn hanes caniadaeth y cysegr wedi gwawrio ar Gymru tua 1840—cyfnod a gyrhaeddodd ei godiad haul yn Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt— fel y prawf geiriau Asaph Glan Tâf ar ddechreu "Telyn Seion": "Buasai yn llawer mwy boddhaol gan ddosbarth lluosog o'n cantorion pe cyhoeddasid nifer o'r tonau gwylltion afreolaidd hynny sydd mewn arferiad (ysywaeth) mewn llawer parth o'r dywysogaeth, y rhai a lygra chwaeth gerddorol y sawl a ymarfera â hwy i raddau helaeth." Bu'n frwydr rhwng y ddau ddull am hir amser yng Nghymru—y mae i fesur o hyd—yn y fan hon y naill ddull, a'r fan acw y dull arall yn ennill y dydd. Ni wyddom