y mae wedi ei alw iddo, y mae'n cael ei ddiogelu er ei fwyn: arbedir fy mywyd tlawd i fod o ryw wasanaeth i gerddoriaeth gwlad fy ngenedigaeth (yr hyn wyf wedi dreio fod yn awr ers tymor hir)." Eto y prif dest o ffyddlondeb i waith ei fywyd yw troi allan nifer o gyfansoddiadau, a phan fetha yn hyn, y mae "dwys bigiad" ei gydwybod i'w deimlo. Dengys fy rhestr o weithiau," meddai am dymor 1871—3, "mai dyma'r tymor lleiaf ffrwythlon yn ystod fy holl fywyd fel cyfansoddwr, er mawr ofid i mi, ac yn groes i ddelfrydau fy mywyd."
Nid yw ei hunan-gofiant o gwbl yn gyflawn fel braslun nac yn fanwl gywir mewn llawer man; ond y mae'n ddiddorol a gwerthfawr am y geilw'n sylw at y pethau a wnaeth yr argraff ddyfnaf arno, ac a godai i fyny uchaf yn ei ymwybyddiaeth yn awr ar derfyn oes. Fe sylwa'r darllenydd fod ei ddeupen yn drwm, a'i ganol yn ysgafn, a gall, efallai, gymryd hynny fel prawf o ddadfeiliad oedrannus (senile decay). Diau na roddodd amser i lawer o gyfnodau Abertawe a Chaerdydd i godi i'r wyneb i gael eu hailfyw," gan mai prin y cyffyrdda â hwy; eto prawf yw hyn nad oeddynt yn crowdio'i gof fel amgylchiadau bore oes, marwolaeth ei ddau fab, a'i gyfansoddiadau. Y mae ysbrydoliaeth y Rockies eto'n ffres, er iddynt ei fychanu a'i luddedu, a gwneuthur iddo deimlo fel baban eisiau cysgu. Ond yr unig beth a bery'r un o hyd drwy holl gwrs ei hunan-fywgraffiad yw ei "Restr" o weithiau—ar ddiwedd pob blwyddyn. Ynglŷn â hon, y mae'n werth sylwi, na wahaniaetha rhwng adran ac adran o'i weithiau, ac na cheir awgrym, fel mae'r blynyddoedd yn pasio, ei fod yn cael ei alw o un ystafell i'r llall yn nhŷ'r gân; yr oedd ei wasanaeth ef yn y tŷ i gyd. Gadawodd Handel, Cherubini, etc., yr opera i raddau pell am yr oratorio; a chawn Gounod yn gweiddi allan, "Dim rhagor o operäu i mi ni chyfansoddaf yr un opera byth mwy. Gyda cherddoriaeth gysegredig yr wyf yn meddwl treulio diwedd fy oes." Ufuddhaodd Jenny Lind alwad gyffelyb ynglŷn â datganu. Ond nid oes sôn am alwad nac ateb fel hyn yn hanes Parry. Dengys ei eiriau ysgrifenedig olaf ei fod yn edrych ymlaen yn awyddus at gael libretto newydd i opera gan Mr. Bennett. Yr oedd tŷ'r gân i gyd iddo ef