Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Merthyr ar y pryd, ar ei gof." Nid yw dywedyd ei fod yn dilyn y seindorf drwy'r dref ond yr hyn a ellid ei ddywedyd am ddegau o fechgyn eraill. Y mae, efallai'n fwy nodweddiadol ohono iddo fynd i'r ysgol gân unwaith â'i wyneb yn fudr, gan gymaint ei hoffter o ganu, ac i Mr. Robert James ei yrru gartref i'w olchi; yn hyn, yn ddiau, "y plentyn yw tad y dyn," canys dioddefodd Parry drwy'i fywyd oherwydd gwneuthur y dosbarth o gyflawniadau a gynrychiolir gan "olchi'r wyneb " yn eilradd i gerddoriaeth. Ar amgylchiad dadorchuddio cofgolofn Ieuan Gwyllt gorfu iddo gerdded yr holl ffordd o'r orsaf, a chario'i fag, am ei fod yn gwisgo het jim crow wen—gwall trefnyddol sobr.

Y mae adeg plentyndod dyn, fel eiddo cenedl, yn tueddu i fynd yn gyfnod chwedlonol dan ein dwylo. Nid rhyw lawer o chwedloniaeth sydd yn gordoi hanes borëol Parry, er fod yna wisp ledrithiol yma a thraw. Yr hyn a deimlwn yw nad oes nemawr ddim sicr a nodweddiadol yn cael ei ddywedyd amdano a'n helpa i adnabod a gwerthfwrogi'r dyn a ddaeth allan o'r bachgen. Ond o hyn ymlaen, yn neilltuol o'r pryd yr ymroddodd o ddifrif i wasanaeth cerddoriaeth, y mae ôl ei sang yn fwy dwfn a phendant yn hanes ei wlad, ac y mae gennym hanes go lawn, nid yn unig yng nghof cyfeillion, ond mewn papurau a chyfnodolion o'i symudiadau a'i weithrediadau, a hwnnw'n hanes a ysgrifennid ar y pryd.

Wrth ddilyn ei hanes ar y wyneb, fodd bynnag, fe weddai i'r darllenydd gofio mai i fyd cerddoriaeth y perthynai Joseph Parry, ac mai ei waith cariad yn y byd hwnnw oedd cyfansoddi, uwchlaw popeth arall. Ac fel mai mynyddoedd Arfon a Meirion sy'n ffurfio nodwedd amlycaf Gogledd Gymru, er fod yno ddyffrynnoedd bras ac eang, felly i werthfawrogi[1] gwir ystyr bywyd Parry, rhaid inni ddilyn mynyddresi ei operas a'i oratorios, heb anghofio, bid siwr, y bryniau mwy tlws, a'r llecynnau mwy mirain a geir oddeutu eu godreon.

  1. Dyma'r rheswm na fabwysiedir yr un dosraniad i gyfnodau ag yng Nghofiant D. Emlyn Evans, er y gallesid gwneuthur hynny, canys ymrodd Parry hefyd i wasanaeth lletach o 1880 ymlaen: gwêl. Pennod XII.