fel poethydd (heater), a minnau wrth y rolls. Yn awr, o'r pryd hwn allan, yr wyf yn gaethwas bodlon i gerddoriaeth. Yr wyf yn cyson dynnu ar ei wybodaeth helaeth ef. Tystia fy nghyfeillion ei fod yn aml yn dywedyd, "Ni ad y diafl bychan lonydd i mi o gwbl."
Daw 1859 ger fy mron, a myn fy nghyd-ysgolheigion i mi ffurfio dosbarth i ddysgu iddynt ddarllen cerddoriaeth a'i gwyddor. Yn awr, yr wyf yn ddeunaw oed, a chynghorir fi i astudio cynghanedd. "Beth yw cynghanedd? " meddwn. "Dysgu'r ffordd i gyfansoddi" yw'r ateb. Meddaf finnau tan wrido. Myfi i wneuthur fel Handel, Mozart, Beethoven, a'r meistri eraill" Rhoddir yn fy llaw holwyddoreg fechan Hamilton ar gynghanedd. Prynaf finnau ysgrif-lech a chrafaf erwydd o bum llinell arni ag un o ffyrch bwrdd fy mam. Cymeraf fy ymarferiadau drosodd yn ddyddiol i'm hathro ar yr ochr arall i'r heol i'w cywiro. Yn 1860, trosglwydda fi i'w gyfaill, Mr. John M. Price, Rhymni, i ddysgu cynghanedd. Af i'w dŷ ef bob prynhawn Sadwrn ar y cyntaf, ond yna fore Sul am naw. Yr wyf yno'n brydlon— yn aml cyn iddo godi.
Yr wyf yn awr yn bedair ar bymtheg oed, ac yn mynychu rehearsals y Pennsylvanians (Male Glee Party), y rhai a gân y canigau Seisnig goreu. Dylanwadodd hyn arnaf fel canigydd. Cynhaliwn lawer o gyngherddau yma a thraw; myfi eto fel alto, ond â'm llais yn cyfnewid. Esbonia (fy athro) i mi lyfr Dr. Marx ar gynghanedd, ac er ei syndod dargenfydd fy mod yn clywed yn feddyliol effeithiau yr holl gordiau y darllen amdanynt. Nadolig y flwyddyn hon gwna i mi gystadlu am wobr mewn dwy eisteddfod: (1) yn Danville, ar yr ymdeithgan ddirwestol. Rhoddir y wobr i mi, ond nid hoff gan y beimiad fy arddull. Y flwyddyn nesaf gwneir i mi gystadlu ar anthem o bwys yn Eisteddfod fawr Utica, ac yr wyf yn curo fy meirniad yn Danville, a'r canlyniad yw gornest newyddiadurol rhwng y cystadleuydd aflwyddiannus a'r beirniad, Mr. J. P. Jones, yn awr o Chicago. (2) Yn Fairhaven, Vermont, ar dôn