Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

narlun, ac yn ysgrifenedig arno, "Ganwyd fi yn yr ystafell hon, Mai 2iain, 1841—Joseph Parry.") Gadawaf fy mhriod a'm dau blentyn yn Danville. Yn New York cyfarfyddaf â brenin fy nghyfeillion dirif, amhrisiadwy, a byth-gofiadwy, sef John Griffiths, "Y Gohebydd," yr hwn, wedi gwylio fy llwyddiant yn Abertawe a Llandudno, fyn gael allan drwy'm cyfeillion hanes fy hynt a'm gorchwyl. Dargenfydd fy mod eto yn y Rolling Mills (yn rolio gini y nos o chwech hyd un o'r gloch), ac ysgrifenna gyfres o lythyrau hirion i'r "Faner." Moriwn yn yr agerlong The City of Washington (yr hon a groesa'r Werydd mewn deuddeg diwmod). Wedi cyrraedd Cymru awn i'r eisteddfod, ac er ein dirfawr syndod deallwn nad oes yr un o'm cyfansoddiadau yn y rhestr a dderbyniwyd gan y beimiaid. Cymerir mesurau yn union i'w holrhain yn y Dead Letter Office, yma ac yn America, ond i ddim pwrpas. (Pa le y maent? pwy a'u medd? ac i ba amcan? Cwestiynau na atebir byth mohonynt). Gwneir y ffeithiau hyn yn hysbys yn yr Eisteddfod, a thrwy'r papurau. Fy motett (buddugol yn Abertawe) yw'r prif-ddam corawl. Gofynnir i mi eistedd gyda'r beirniaid, ac felly y clywais fy nghorawd am y tro cyntaf. Am y waith gyntaf hefyd caf weld, cyfarfod, a siarad â Ieuan Gwyllt, Ambrose Lloyd, Gwilym Gwent, John Thomas (Blaenanerch), John Thomas (Pencerdd Gwalia), Alaw Ddu, Emlyn Evans, Tanymarian, a Rheithor Castellnedd, yr hwn wna i mi wrido wrth fy nghyflwyno i'r dorf anferth, a thywallt ei foliant drosof. Cymerir fi i'r "orsedd," a dwbir fi'n sydyn yn Pencerdd America ganPencerddGwalia. Y mae ysgrifau'r "Gohebydd" yn y "Faner" wedi dylanwadu ar Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i'w cael i gynnyg i mi ddwy flynedd o addysg dan Dr. Evan Davies, Abertawe, ac yn y Royal Academy yn Llundain—i gychwyn yn union. Derbyniaf y fath gynnyg mawrfrydig gyda diolchgarwch, a chaniateir i mi ddychwelyd adref at fy nheulu a dod yn ol y flwyddyn nesaf, 1866.

Un o gyfansoddiadau Aberystwyth yw "Ar don o flaen gwyntoedd"; nid oes gennyf gopi ohoni, ond yr wyf yn ei