yn dwyn y dorch oddiar gewri fel Gwilym Gwent, yn aros yng nghof y wlad, ac wedi casglu llawer o hud chwedlonol o'i gylch erbyn hyn; yna yr oedd ei enw gorsedd, "Pencerdd America"—felly yr adnabyddid ef yn y dyddiau hynny—yn berchen llawer o gyfaredd, a'r Mus. Bac. yn arbennig, er na wyddem yn iawn beth a olygai (dyna hanner rhinwedd teitl, a da hynny), ond ei fod yn fwy dieithr na'r B.A., yr hwn hefyd oedd yn brin y dyddiau hynny; ac yn ddiweddaf oll, yr oedd rhywbeth yn ei wedd a'i wallt, a'i darawiad buoyant Americanaidd, yn taro'r llygad a'r ffansi ieuanc. Sôn am "dderbyniad tywysogaidd"! Ni fu erioed dywysog a gaffai y fath dderbyniad calonnog ag ef drwy Gymru oll o Gaergybi i Gaerdydd.
Yr oedd yn anghenrhaid fel beirniad ymhob eisteddfod o bwys. Cawn ef yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn fuan wedi iddo lanio, ac ym Mhwllheli y flwyddyn ddilynol yn cymryd ei le gyda'r rhai a'i beirniadai ddeng mlynedd yn flaenorol. Deuai yn rheolaidd i brif eisteddfodau Dyfed, ac mi gredaf, i rai Morgannwg a Gwent. "Dyna'r dyn sy'n mynd â hi" ydoedd ei hanes y dyddiau hynny. Er mai efe oedd ein beirniad mwyaf poblogaidd, ni ellir dywedyd yr un peth amdano fel datganydd, gan fod Mynyddog a Morlais ar y maes. Ni feddai naturioldeb dihafal y naill na llais llifeiriol y llall. Y gwir yw nad oedd wedi ei eni yn ganwr er fod dysg wedi gwneuthur llawer drosto. Yr oedd ei lais braidd yn gras, ond parablai'n groyw iawn, mae'n wir, a thaflai gryn lawer o rym dramayddol i'w ganu, ond ni chyffyrddai â'n calon fel y ddau arall. Cofied y darllenydd mai mynegi'r teimlad ar y pryd a wneir yn y fan hon—er y credaf y gwna'r farn gerddorol addfed ei ategu. Erbyn 1875 cawn ef—a'i ddisgyblion erbyn hyn—yn goresgyn esgynloriau eisteddfod a chyngerdd. Yng nghyngherddau Eisteddfod Pwllheli cawn yr U.G.W. ochr yn ochr â'r R.A.M. Yr oeddynt eisoes wedi rhoddi prawf o'u medr a'u cynnydd yng nghyngherddau'r Coleg— cyngherddau o gryn fri a phoblogrwydd.
Cofiaf yn dda amdano ef a nifer o'i ddisgyblion yn canu yng Nghyngerdd Eisteddfod Crymmych, ac yn dychwelyd gyda ni i Gastellnewydd, i gynnal cyngerdd yno y nos