Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diau ei fod wedi dechreu cyfansoddi'r tonau flynyddoedd cyn hyn. Ni wyddom a oedd wedi ffurfio golygiad neilltuol ar y mater, ai ynteu greddf gerddorol a'i harweiniai, neu efallai mai canu fel aderyn yr oedd am ei bod yn rhaid iddo ganu. Ni waeth lawer pa un, ond amlwg yw iddo roddi moddion addysg a mwynhad iachus i hen ac ieuanc. Y mae llawer o sôn y dyddiau hyn (dechreu 1921) am y "beastly tunes" a gâr y werin yn ol disgrifiad un o'n prif gerddorion. Wel,"beastly" neu beidio, fe fyn y lliaws donau melodaidd a chanadwy, neu ddim, a'r cwestiwn yw, ai nid yw yn bosibl bod yn felodaidd a syml heb fynd yn israddol a cheap. Credaf mai greddf gerddorol Parry a'i harweiniodd i geisio ateb y cwestiwn yna yn gadarnhaol, a hynny mewn ffordd ymarferol, hynny yw, drwy gyfansoddi tonau a chaneuon syml a swynol. Ym myd barddas rhoddwyd ateb cyffelyb gan Wordsworth yn ei ganiadau syml, a gwyddom hefyd i'w farddoniaeth, mewn diwyg felly, gyrraedd calon un mor brennaidd a John Stuart Mill. Y gwir yw ei bod yn gryn gamp ysgrifennu barddoniaeth a cherddoriaeth felly, a hynny am nad oes fantais i rodres geiriol a choeg-wychter peiriannol i guddio aflerwch syniadol.

Yn ystod y cyfnod hwn y daeth y corawd i gorau meibion i fri, ac i'w fri pennaf o Eisteddfod Caerdydd yn 1879 ymlaen[1] ond i gryn lawer o boblogrwydd cyn hynny. Cenid "Codwn Hwyl" ymhob tref a phentref lle ceid dyrnaid o fechgyn cerddgar yn Nyfed. Yna cawsom "Ryfelgan y Mynachod" ganddo, a "Chytgan y Bradwyr" a'r "Rhyfelgan Gorawl."Dilynwyd ef yn y llinell hon, nid gan ei hen gyfeillion ar lwybrau'r anthem a'r ganig, ond gan rai o'i ddisgyblion ei hun—David Jenkins yn bennaf, efallai. Rhoddodd Emlyn ei wasanaeth yn fwyaf neilltuol i'r corau merched.

Cyfansoddodd rai o'i donau goreu yn Aberystwyth—"Aberystwyth" yn eu plith—ond ni ddechreuodd eto ar ei Lyfr Tonau Cenedlaethol. Hawlia dau o'i ddechreuadau mawr, sef yr Opera a'r Oratorio, bennod iddynt eu hunain.

  1. Yr oedd dwy o ganigau Parry yn Eisteddfod Abertawe (1863) i leisiau gwrywaidd.