Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anghenraid arall i waith celfyddol mawr yw amrywiaeth—amrywiaeth rhannau—fel aelodau yn y corff, ac amrywiaeth lliwiadaeth ddisgrifiadol neu arall. Geilw Robert Hall weithiau John Owen yn "gyfandir o fwd,"am eu bod mor unlliw ac undonog. Gellid cymhwyso yr un feirniadaeth at "Emmanuel" Hiraethog, mor bell ag y mae lliwiadaeth eiriol yn y cwestiwn—ansoddeiriau rhyddieithol amlwg yn cynhyrchu argraff o lwydni (grey) diymwared, gydag ambell i gyffyrddiad o goch a gwyn yma a thraw. O ran hynny, cydnebydd Hiraethog mai rhyddieithol y gwaith fod mewn rhannau arbennig. Daw'r amrywiaeth i mewn gyda'r prif rannau: nid cyfandir gwastad mohono; y mae yna fryniau cribog, a chreigiau rhamantus yn y llwydni. Y mae "Emmanuel" Parry yn sylfaenedig ar rannau o eiddo Hiraethog, wedi eu cyfnewid ambell i waith, a rhai rhannau hollol newydd i gwrdd â gofynion y cerddor—canys yr oedd y cerddor yn aml o flaen y bardd, wrth gyfansoddi "Emmanuel" a "Blodwen." Y cerddorion all ddywedyd i ba raddau y mae gwawr a chysgod cerddorol yn dibynnu ar wawr a chysgod yn y geiriau. Ond gwyddom hyn, fod Parry'n feistr ar holl ffurfiau cân, ac wedi rhagori mewn tôn ac anthem, cân a chanig, deuawd, triawd, a phedwarawd, yn ogystal â'r corawd trwm, cyn meddwl ohono am gyfansoddi nac Opera nac Oratorio; a'i fod yn berchen hefyd i raddau mawr ar y gallu i ddisgrifio holl amrywiaethau bodolaeth, holl deimladau y galon ddynol; fel y dywed Mr. L. J. Roberts (gan gyfeirio at rai pethau a ysgrifennwyd wedi'r cyfnod sydd dan ein sylw'n awr):

"Er mor ardderchog yw rhai o'i donau, nid drwy ei emyn-donau y mae Joseph Parry wedi gwneuthur mwyaf o wasanaeth i gerddoriaeth ei wlad, ond yn hytrach drwy ei weithiau eraill—yr oratorios, y cantawdau, yr operäu, a'r cytganau, anthemau, a rhanganau. Ofer fyddai ceisio hyd yn oed enwi y rhai hyn,—y maent yn aneirif: ond rhaid cyfeirio at ( Blodwen' gan fod hon yn llanw lle pwysig yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Y mae hon yn opera Gymreig ymhob ystyr—yn ei thestun, ei hysbryd, ei chymeriadau, a'i cherddoriaeth. 'Y mae yn 'Blodwen' medd Mr. Emlyn Evans, 'ddigon o felodi i wneuthur