Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel Mozart, Schubert, Rossini, a Handel, ac am yr hanesion ynghylch Overture 'Don Juan' y gân a enwir yr 'Erl König' 'Gweddi' enwog, a'r oratorio fwyaf mewn bod." Cyfeirir yma at rai o gampau y cyfansoddwyr uchod mewn cyfansoddi cyflym. Cyfansoddodd Mozart overture "Don Giovanni" mewn llai na chwech awr. Gadawodd un o gyfeillion Schubert y cerddor yn darllen pryddest Goethe, yr "Erl König," am y waith gyntaf; a phan ddaeth yn ei ol mewn llai nag awr, yr oedd y cerddor wedi gorffen ei gân fyd-enwog yn ei ben, ac yn ei phrysur osod i lawr ar bapur. Cyfansoddwyd ei "Serenade" mewn modd cyffelyb, ond fod yr amgylchoedd yn fwy anffafriol, sef tafarndy budr yn Vienna—yno yng nghlindarddach cwpanau a gwydrau a brawl diotwyr, y daeth y gân anfarwol i'r ddaear, yn ei holl ledneisrwydd nefol, fel y daw'r dragon fly allan a'i hedyn heb frycheuyn na chrychni, o ganol budreddi y pwll lleidiog.

Pan roddwyd "Moses" Rossini y waith gyntaf, aeth y perfformiad ymlaen yn llwyddiannus nes dod at groesi'r Môr Coch, pan dorrodd y gwyddfodolion allan mewn chwerthin gwawdus, fel ag i ddinistrio effeithiau cerddorol a llwyddiant y gwaith. Ni wyddai'r rhiolydd beth i'w wneuthur nes i Tottola, y librettist, awgrymu gweddi cyn croesi ac eilwaith yr ochr draw. Ymaflodd y syniad yn Rossini, neidiodd allan o'i wely yn ei wisg nos, a chyda chyflymder anhygoel ysgrifennodd y weddi odidog, heb roddi ond prin amser i'r manager a'r librettist synnu! Rhoddwyd y gwaith ynghyd â'r weddi yr un nos—yr oedd y bobl yn paratoi eu hunain i chwerthin fel arfer, ond gyda bod "Moses" yn dechreu canu a'r côr yn dilyn, trodd yr ysbryd chwerthin yn gywreinrwydd, yna yn astudrwydd, ac wedyn yn gymeradwyaeth byddarol.

Yn ol yr hanes, dechreuodd Handel ysgrifennu'r "Messiah" Awst 22ain, 1741, gan ei gorffen Medi 14eg—mewn tri diwrnod ar hugain!

Daeth Parry dan ddylanwad Rossini yn fawr un adeg yn ei hanes, a hynny'n ddiau am fod yna gydnawsedd ysbryd ac awen rhyngddynt. Ymddengys ei fod yn ymdebygu i Rossini hefyd, yn ei ddull o gyfansoddi, ond ei fod yn meddu ar fwy o hunan-reolaeth, ac yn rhoddi ei hun i