Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na'r Monophonic (melodic) style, sydd yn gynnyrch awen naturiol. "Meddai yntau ystor o ynni ac egni diball i roddi'r wisg i'w feddylddrychau ag y rhaid wrth "lafur, dysg, ac ymarferiad mawr" i'w gwau.

Yr oedd hefyd yn alluog i gynhyrchu mwy o fater am na roddai ond ychydig sylw i gaboli a pherffeithio yr hyn a gyfansoddasai: y mae hyn yn cymryd amser mawr, ond fel rheol y mae'n angenrheidiol, gan mai yn anaml y cwyd cân—llai fyth gyfanwaith—o'r dyfnder fel Minerva o'r môr yn ei llawn arfogaeth. Ag eithrio Mozart, dyna hanes y prif feistri fel arfer. Er fod Haydn yn gyfansoddwr cyflym, eto treuliodd dair blynedd i gyfansoddi ei "Greadigaeth," am, meddai ef, y golygai iddi fyw yn hir. Ymdrafferthodd Gluck yn ddirfawr gyda'i "Armida," ac am y rheswm hwnnw credai fod y gerddoriaeth yn gyfryw nad äi byth yn hen. Dengys notebooks Beethoven yr un peth. Gwyddom fod gan Milton ymdeimlad fod ei "Goll Gwynfa" i barhau, ac am hynny cymerai boen i fod yn ffyddlon i ofynion a sibrydion y tragwyddol perffaith. Ond pan gyd-lafuriai Dewi Môn a Parry ar y "Cambrian Minstrelsie." cwynai y blaenaf wrth gyfaill na fedrai gyd-gerdded—neu gyd-redeg—â Parry, a'i fod yn ofni mai "slap-dash work" a gynhyrchai. Tebyg nad oedd sail i'r ofn hwn, er yn ddiau y buasai'r gwaith yn llawer gwell gyda mwy o ofal.

Eto, nid yn unig yr oedd Parry yn gyfansoddwr cyflym, ac yn weithiwr caled (er nad yn ddigon llym tuag ato'i hun), ond yr oedd hefyd yn gynhyrchydd cyson, a hynny yng nghanol amgylchiadau anffafriol. "Yr oedd mor ddiwyd," meddai ei ferch, "fel nad ydym yn gallu cofio fod unrhyw ran arbennig o'i ddydd yn cael ei rhoddi i gyfansoddi. Meddyliai allan ei destun wrth gerdded a theithio, etc., a throsglwyddai ei gynhyrchion i bapur pan ddeuai cyfleustra." Yr oedd ei allu i "gau ei ddrws" ar bethau allanol, y cyfeiria Mr. J. T. Rees ato, yn help i wneuthur hyn yn bosibl, ac yn angenrheidiol pan fyddai'n ysgrifennu cerddoriaeth. Ond hyd yn oed ar adegau eraill äi y gwaith creol ymlaen yn y gweithdy is-ymwybodol. Gellir deffinio athrylith fel drws agored i'r delfrydol, fel y synhwyrau i'r materol; ac yr oedd yn ei natur ddrws