Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwnaeth natur ef yn etifedd amryw bethau, a fu yn hynod fanteisiol i'w boblogrwydd. Ni chafodd ei eni a llwy aur yn ei enau, nag yn etifedd tai a thiroedd, ond gwnaed ef yn etifedd pethau canmil gwerthfawrocach, a phethau nas gellir eu prynu er arian. Mae ambell un wedi codi i enwogrwydd heb ei fod wedi cael talentau lawer, ond bu "yn ffyddlawn ar ychydig" a thrwy ymdrech galed cyrhaeddodd safle anrhydeddus, a phriodol y gallai dd weyd am y safle a gyrhaeddodd, "A swm mawr y cefais i y ddinasfraint hon." Ond gallasai Hwfa Mon ddweyd, "A minau a anwyd yn freiniol." Mae llawer o wirionedd yn yr hyn a ddywedai yr hynod Ishmael Jones, am ddwyn i sylw—"Mae un o'r Caesars yn dweyd 'rwan, fod y genius mwya' eisiau introduction, ac y mae rhywbeth felly yn y Beibl, 'rwan—"Iago brawd yr Arglwydd " 'rwan. Mae perthynas yn introduction weithiau; bryd arall corph da, presence, trwyn, neu lais—bloedd dda, 'rwan."

Anfynych y cafodd unrhyw athrylith well introduction na'r eiddo Hwfa Mon, dyna presence! Y fath gorph tywysogaidd, tal, lluniaidd, cadarngryf, gwyneb glan, llawn, heb fod blewyn yn cael caniatad i dyfu arno, talcen uchel, pen o faintioli mwy na'r cyffredin, gwallt llaes yn ymdoni ar ei ysgwyddau. Yr oedd ei bresenoldeb yn urddasol, ac yn tynu sylw cyffredinol, ac nid oedd raid ei weled ond unwaith i'w gofio byth wedyn.

Dywedai yr hen bregethwr y cyfeiriais ato eisioes, nad oedd dim daioni o boblogrwydd buan," a chredaf fod llawer o gywirdeb yn y sylw, yn raddol, fel rheol, y mae pethau mawr yn ymddadblygu. Y cicaion yn tyfu mewn noswaith, ond y dderwen yn cymeryd amser hir. Ac felly am ddynion mawr, ond y mae eithriadau, megis y diweddar Mr. Spurgeon yn mhlith y Saeson, ac amryw y gallasem ei henwi yn y weinidogaeth Gymreig. Dyna y Parch John Evans, Eglwysbach, yr oedd fel comet danllyd, yn tynu sylw yr holl wlad, ar ei ymddangosiad cyntaf. Ond yr oedd y fath adnoddau naturiol yn y cymeriadau a nodwyd, fel na