Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pregethwr dieithr, darllenai ei destyn mewn cywair isel, a goslef oedd yn dreiddgar er yn ddistaw. Ac yr oedd rhyw arbenigrwydd yn y pwysleisiad a'r aceniad, oedd yn hollol wreiddiol, ac yn dwyn delw un oedd yn gynefin a chleciadau y cynghaneddion. Teimlid fod rhyw doriadau yn ei eiriau, oedd yn debyg i fath o attal dywedyd, ag oedd yn nodweddiadol o hono hyd y diwedd. Os bu cywreinrwydd yn meddianu cynulleidfa erioed, yr oedd felly y noswaith hono. Ond wele y gair cyntaf allan o enau y pregethwr ! Llyfr y Di-ar-heb- ion, y bed-war-edd ben-od, a'r ddau-naw-fed ad-nod. "Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y gol-eu-ni, yr hwn a lew-yr-ch-a fwy fwy hyd gan-ol dydd." Cynwysai y bregeth athrawiaeth, duwinyddiaeth, a barddoniaeth, a mwy o'r diweddaf nag a glywswn mewn pregeth erioed cyn hyny. Ei fater ydoedd-Cynydd bywyd y Cyfiawn, soniai am ddeddf cynydd, a threuliodd amser hir i ddarlunio fel yr oedd gwahanol wrthrychau natur yn ufuddhau i'r deddfau, a osododd y Creawdwr iddynt. Cyferiai at yr haul a'r lleuad, y ser a'r planedau, eu maintioli, cyflymder eu symudiadau, ac fel yr oeddynt yn cadw eu cylchoedd a'u "hamseroedd nodedig." Rhoddodd ddarluniad brawychus o'r mellt a'r taranau, nes oedd y gwrandawyr bron a dychmygu eu bod yn gweled y mellt yn fflachio, ond meddai, Mae Duw yn "gwneud ffordd i fellt y taranau." Yna dywedai am y gwynt, mor ddilywodraeth yr ymddangosai i ni, ond fod y gwynt ystormus yn gwneuthur ei air ef." Ei ddarluniad o'r môr oedd y mwyaf barddonol. Nid oeddwn wedi gweled môr erioed, ond teimlwn fy mod yn ei weled y noson hono. Yr wyf wedi byw yn ei olwg bob dydd bellach, er's llawer o flynyddoedd. Ond bron nad wyf yn credu fod y darlun a gefais o hono yn y bregeth gan Hwfa Mon, yn ei ddangos yn llawn mor fawreddog, ag y gwelais ef o gwbl. Da fuasai genyf allu rhoddi y desgrifiad yn ei eiriau ef ei hun. Yr oedd rywbeth i'r cyfeiriad a geir ganddo yn ei Awdl "Y flwyddyn."