Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

darlithio oddi cartref. Anmhosibl fuasai cael gwell cyfleustra, am mai yno y treuliodd Hiraethog" ei flynyddau olaf, ac yn y ddinas hon yn nghanol ei deulu y bu farw.

Rhaid cydnabod hefyd, nad oedd neb cymhwysach i ddarlithio arno na "Hwfa." Gwnaethum aberth i fod yn bresenol, a disgwy— liwn, yn naturiol, am bethau mawr. Cododd i'n hanerch am ddeg mynyd wedi saith, ac aeth a ni ar ein hunion i "Lansanan wën ei gwawr," a gwyr y neb wyr ddim am Lansanan, mai nid gwaith hawdd i fardd o gymeriad ac edmygedd "Hwfa" fuasai ymadael oddiyno yn fuan,—mangre William Salsbri, cyfeithydd y Testament Groeg i'r Gymraeg. Hen dreftadaeth "Hedd Molwynog"—un o henafiaid "Hiraethog"; "Tudur Aled"; "Griffith Hiraethog "Meurig Llwyd"; R. Ap Dafydd," hen athraw "Hiraethog mewn barddoniaeth, a "Bardd Nantglyn," Cawsom ddarlun tlws of afon "Aled" yn ymddolenu drwy yr ardal ai brithilliaid yn tòr—wynu yn ei dyfroedd gloeywon. Awd a ni i'r Cae Du, a chadwyd ni yno yn hir, am mai yno y bu William Salsbri; aeth a ni i'r ystafell gul yn ochr y simddeu fawr lle y gwelid drwyddi yr awyr las, ac nid wyf yn sicr na chipiodd ni unwaith yndorf gariadus" drwyddi i gefn y ty, mewn cyffro am fod ei angel gwarcheidiol—ci Salsbri, wedi rhoi cyfarthiad bygythiol, fel i arwyddo fod rhai o swyddogion "Mari Waedlyd," ei gwaed—gŵn hi, wedi dod yno i ddal Salsbri am y pechod dychrynllyd o droi y Testament Newydd i iaith y werin. Fodd bynag, darluniwyd y cyffro a achosai cyfarthiad yr hen gi ffyddlon— Cipid y llyfrau, yr inc a'r cwbl er diane drwy y mŵg i'r ystafell gul oedd yn mantell y simddeu. Mynai "Hwfa," fod Cymru o dan ddyled neillduol i'r hen gi yn gystal ag i'w feistr am y Testament. Mynodd y darlithydd ymdroi cryn dipyn eto gyda hen breswylwyr doniol a diniwed y lle, yn nyddiau mebyd "Hiraethog."

Dywedai y byddent yn arfer geiriau oeddynt fel rhegi, ond nid rhegi chwaith—megys. "Ynmhell-y-bo; yn bôcs-y-bo; yn boeth-y-bo; dario; dratio a daucio"—a'i "Hwfa" drwyddynt, heb i neb deimlo ei fod yn tynu dim oddiar urddas y ddarlith. Clywais