Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

treio. Nid gwiw cynyg ei ddilyn a'r y daith "Dros y Dòn," am na chaniatta gofod. Yn wir, methai "Hwfa" ei hun a chymeryd ei gynulleidfa gydag ef bob amser fawr o'r daith. Sicrhawyd fi oddiar awdurdod safadwy, iddo mewn man yn ardal Bethesda fethu, yn ystod teirawr, a chymeryd y gynulleidfa allan o olwg tir y Werddon, hyd yn nod ar y fordaith allan!

Manylai ar y cychwyn allan o Lynlleifiaid, (ni soniwyd am Liverpool), ac ar yr ager-long y Teu-ton-ic, chwedl yntâu. Rhaid oedd chwareu tic ar ol tic wedi unwaith gydio yn y gair. TEU-TON-IC -Teu-ton-ic. Darluniai yr ager-beiriant, a rhoddwyd stoc o'r teithiwyr. Nifer y teithwyr ar ol gadael Queens' Town yn 1500.— tri arddeg yn Gymry. Cawsom ddarlun "Hwfa" o angladd un o'r môr-deithwyr, yn effeithiol iawn;—Cyrhaeddwyd Efrog-Newydd heb gymeryd arno fod New York yn bod.

Y pethau rhyfeddaf a gawsom wedi cyrhaedd drosodd oedd darluniad dihafal y darlithydd o'r "Niagara"—"Ffair y byd," yn Chicago, a'r Eisteddfod Fyd-gynulliedig, i'r hon yr oedd efe yn wahoddedig.

Yr oedd y "Niagara" wedi ei synu a'i swfrdanu â'i fawredd- darluniai y càn miliwn tunelli dyfroedd yn disgyn dros y creigiau bob mynud, nes siglo craig gorseddfainc cyfandir America! Portreadai y Chwyrndrobwll erchyll sydd fel pwll uffern islaw, i'r môr wedi ymwylltio yn ymdywallt yn ei gynddaredd dros ddannedd craig dinystr. Wedi darlunio yr arswydedd ofnadwy sydd yno. Yna newidiai ei lais, i ddarlunio y tawch gwyn yn ymgodi yn gymylau diorphwys oddiwrth nerth disgyniad y dwfr, a'r haul yn edrych drwy y cymylau hyn nes creu enfys odidog yn bont aur dros geubwyll uffern. Yna torai allan gan godi ei lais yn uwch uwch— Niagara! NIAGARA! NIAGARA!"—a gostynga ei lais a dywed. "Dim i'w weled ond y Duw Mawr!!"

Ni allaf ymdroi gydar "Ffair na'r Eisteddfod," ond wedi gweled y pethau oedd yno, dywedai "Hwfa" fod ticiadau yr awrlais yn