chofiaf ei destun hefyd: "Ond tydi pan weddiech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel : a'th Dad yr hwn a wél yn y dirgel a dâl i ti yn yr amlwg." Y mae yn rhaid fod rhyw neillduolrwydd yn y pregethwr ieuanc cyn y buasai wedi llwyddo i argraphu ei destun ar gôf yr hogyn fel y mae yn glir ar ei gof fel testun y pregethwr y Sabboth hwnw yn mhen dros haner canrif ar ol hyny. Clywais lawer o bregethau cyn hyny, a llawer mwy wedi hyny, ond ychydig iawn o'r testunau sydd wedi aros gyda mi fel y gallaf gyfeirio atynt a nodi gan bwy, yn mha le a pha bryd y clywais bregethu arnynt. Ond y mae y geiriau y cyfeiriwyd atynt yn aros gyda mi fel testun Hwfa Môn hyd y dydd heddyw: ac ni byddaf byth yn eu darllen neu yn clywed eu darllen neu eu hadrodd na bydd Hwfa Mon yn mhwlpud hen gapel y Tabernacl, Great Crosshall Street, Liverpool, yn ymrithio o fy mlaen. Yr oedd hyn, mi dybiaf, yn yr un flwyddyn ag yr ordeiniwyd Hwfa yn Magillt. Yn mhen tua deuddeng mlynedd wedi hyny, a mi wedi ymsefydlu yn weinidog yr eglwys annibynol yn Nghaer ac yn bur fuan wedi i Hwfa symud o Wrexham i Bethesda, yr oeddwn i a'm hanwyl gyfaill, y diweddar Barch Evan Edmunds Dwygyfylchi, ar ymweliad à chyfaill i ni ein dau oedd yn byw yn Methesda ar y pryd. Yno y cyfarfuasom â'r enwog Kilsby Jones, yr hwn a gartrefai yn Llundain y pryd hwnw ac a ddaethai i dreulio ei wyliau haf y flwyddyn hono ar daith drwy ranau o Ogledd Cymru. Ar ei hynt daeth i Bethesda a bwriadai fyned oddiyno i Gapel Curig a Llanberis ar ei ffordd i ben y Wyddfa. Ceisiodd gan Edmunds a minau fyned gydag ef, a chan faint ei daerineb efe a orfu er ein bod wedi llunio myned i gyfeiriad arall. Wrth fyned heibio galwasom yn Nolawen lle y preswyliai Hwfa, a mawr oedd y croesaw a gawsom ganddo. Ceisiodd Kilsby ei berswadio yntau i ddyfod gyda ni, ond gan na fynai efe ddyfod rhaid oedd myned hebddo ac aethom yn mlaen i Gapel Curig lle yr arosasom y noswaith hono. Dodwyd ni ein tri yn yr un ystafell-gysgu lle yr oedd dau wely a gorweddai Kilsby yn un, ac Edmunds a minau yn y llall. Ond nid oedd wiw i
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/137
Gwedd