Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr afiechyd hwnw, a chafodd fwynhau iechyd lled dda drachefn, er fod yn amlwg nad adferwyd iddo y nerth oedd wedi ei golli. Yr oedd y gwaeledd hwnw wedi rhoddi mantais iddo i sylweddoli yr amgylchiad y gwyddai nad oedd yn mhell iawn oddiwrtho, a sylwai ei gyfeillion ei fod fel pe yn deimladwy yn barhaus ei fod ar fin byd arall.

Ar y 14eg o Fedi 1905 y tarawyd ef yn wael o'r cystudd olaf. Wedi symud i fyw i Rhyl arferai fyned yn ddyddiol am dro i'r Promenade, ac yn ol ei arfer, aeth foreu y diwrnod y cymerwyd ef yn wael, ac eisteddodd ar fainc yn ymyl y traeth, i wylio y plant yn chwareu yn y tywod ar fin y mor; byddai wrth ei fodd yn edrych arnynt yn adeiladu eu cestyll, yn nofio eu llongau a'u cychod, ac yn ymdrochi ar lan yr heli. Daeth yn sydyn yn gawod o wlaw, prysurodd yntau tua chartref; gwelwyd ef yn y gwlaw yn cyfeirio tua Llys Hwfa gan un o gerbydwyr y Rhyl, yr hwn a'i cododd i'w gerbyd ac a'i dygodd at ddrws y ty. Treuliodd y prydnawn wrth y tân yn ei study; tua phump o'r gloch dywedodd wrth Miss Nellie Hwfa Roberts (ei nith) ei fod yn teimlo yr rhyfedd iawn, a'i fod am fyned i'w wely. Yr oedd mor llesg fel y cymerodd, er iddo gael help ei nith, dros haner awr i fyned i fyny y grisiau i'w ystafell. Erbyn deg o'r gloch y noswaith hono yr oedd yn bur wael a danfonwyd am y meddyg—Dr. Hughes Jones—yr hwn wedi ei weled a ganfu ei fod yn dyoddef oddiwrth inflammation of the lungs. Gwaethygodd wedi hyn, a bu raid cael professional nurse i ofalu am dano. Yn mhen oddeutu tair wythnos yr oedd ychydig yn well, ond cyn diwedd mis Hydref yr oedd gryn lawer yn waeth drachefn. Un diwrnod wedi iddo fod yn holi y meddyg a'r nurse ynghylch ei waeledd, ac iddynt hwythau roddi iddo atebion calonogol, gofynodd i'w nith "Nellie beth wyt ti dy hun yn ei feddwl? A wyt ti yn meddwl fy mod am wella?" Wedi i Miss Roberts ei ateb yn gadarnhaol, torodd yntau i wylo yn hidl, a gweddiodd am gymorth i oddef y cystudd. Yr oedd yn gwbl dawel gyda golwg ar yr ochr draw, eto yr oedd yn amlwg ei fod yn ymwybodol o newydd-deb a mawredd