gystal â Chymry—o'i phrif swyn; llusgid hi o awyrgylch rhamant i diriogaeth cyffredinedd; ac nis gallai mwyach danio y dychymyg mwy na chystadleuaeth aredig neu arddangosfa amaethyddol. Yr oedd Hwfa yn credu yn drwyadl yn yr Orsedd: ni byddai ei hyawdledd byth mor ysgubol â phan yn amddiffyn ei hawliau neu yn seinio ei chlodydd: arferai, y pryd hwnnw, fathu geiriau digyfryw, a'u lluchio yn chwilboeth at ei wrandawyr, fel bwledi of safn magnel. Dygai fawr sêl dros yr holl ddefodau cysylltiedig â hi; a mynnai eu cario allan gyda'r fath fanylder a phe buasai. iachawdwriaeth y genedl yn ymddibynu arnynt. Prin y gellir meddwl i'r un offeiriad, pan yn gweinyddu yr offeren, gael ei feddiannu a'r fath ddifrifwch angerddol â'r eiddo ef, pan yn sefyll ar y Maen Llog ynghanol y cylch derwyddol, dan nenfwd glasliw y ffurfafen, i gyflawni y dyledswyddau perthynol i'w swydd. Pwy a'i clywodd a all anghofio y "Llais uwch adlais," y "Llef uwch adlef," y "Waedd uwch adwaedd," pan fyddai ei floedd, fel taran drystfawr, yn diasbedain rhwng y creigiau, wrth iddo ofyn, "A oes heddwch"? Nid rhyfedd i'r proffeswr Germanaidd hwnnw a ddaethai i'r wlad hon i ddysgu Cymraeg, wrth iddo roddi hanes ei ymweliad â'r Eisteddfod, yn un o bapyrau Cymreig y Gogledd, ei ddynodi fel y "croch Hwfa!"
Os nad wyf yn camgymeryd, penodiad cymharol ddiweddar yw swydd yr Archdderwydd. Yr unig archdderwyddon wyf fi yn eu cofio yw Dewi o Ddyfed, Meilir, Clwydfardd, a Hwfa Môn; ac y mae yn amheus gennyf a benodwyd yr un o honynt, oddigerth y diweddaf, drwy bleidlais reolaidd y Beirdd. Tae fater am hynny! Clwydfardd oedd y cyntaf i osod bri ar y swydd. Yr oedd ei ymddangosiad patriarchaidd a'i oedran mawr ar unwaith yn hawlio gwarogaeth; ac edrychid i fyny ato, gan fach a mawr, fel person cysegredig, fel ymgorffoliad byw o fawrhydi yr Awen. Gwisgai ei dlysau arian ar ei ddwyfron (megis amryw o'i frodyr), fel cynifer o ser, ar achlysuron cyhoeddus; ac yr oedd un o honynt, o ran maint, bron yn gyfartal i ddysgl giniaw. Gallai adrodd englynion gyda