Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhywfath o arholiad—arholiad digon caled i brofi o leiaf fod ganddo rywbeth amgenach na meipen ar ei ysgwyddau. Deallaf fod diwygiad pellach yn y gwynt; a gobeithio y bydd yn ddiwygiad sylweddol. Dyma gyfleustra ardderchog i wneud yr Orsedd yn grynhoad o hufen diwylliant y genedl. Tybed na ellir rhoddi iddi gyffelyb safle. yng Nghymru ag a fedd yr Académie Française yn Ffrainc, trwy gyfyngu ei haelodaeth yn hollol i'r rhai sydd wedi gwneud eu rhan tuag at gyfoethogi llenyddiaeth eu gwlad?

Brodor o Fôn oedd Hwfa, mal yr awgryma ei enw; ac yr oedd yn falch o'i fro enedigol. Pa fodd y mae cyfrif am y ffaith fod Môn, o ddyddiau y Derwyddon hyd yn awr, wedi bod mor nodedig am wroldeb, athrylith, ac ysbryd anturiaethus ei meibion ? "Môn mam Cymru" y gelwid hi gynt; ac yr oedd yn llwyr deilyngu y cyfenwad. Gofynnai rhyw fardd, yng ngwres ei edmygedd o honi——

Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wyr mawr Mon?

Gormodiaith, yn ddiau, yw y dyheuriad—"Môn a'i beirdd mwya'n y byd;" ond os gwir yr hen air, fod yn rhaid cael rhyw liw cyn llifo," mae'n deg i ni gasglu fod beirdd Môn ymysg goreuon yr oesau. Dichon fod enwau rhai o honynt wedi myned ar ddifancoll; ond y mae enw Goronwy Ddu yn aros mewn bri, a'i gywydd. gorchestol ar "Y Farn Fawr" yn gofwy oesol o egni seraffaidd ei awen. Pa angen ychwanegu enghreifftiau? "Ab uno disce omnes." Nid oes dim yn arwynebedd y tir i gyfrif am hyn, gan fod y coedwigoedd yn brinion, yr afonydd yn brinnach, a'r bryniau yn brinnach fyth. Gwlad fynyddig yn gyffredin sy'n cenhedlu darfelydd; a swn cornentydd, ysgythredd y creigiau, a rhuthr y dymhestl, sydd fynychaf yn cryfhau ei edyn. Gwastatir unffurf ddigon yw Rhos Trehwfa, yn gorwedd rhwng Cefn Cwmwd a Llangefni, ger llaw y brif-ffordd o Fangor i Gaergybi. Dyma lle y treuliodd Hwfa ei ddyddiau boreuol, a dyma lle yr yfodd gyntaf o