Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o Ben y Graig, yr oedd eglwys a Mynwent Trefdraeth, a byddwn inau, er mor ifanc oeddwn, yn hoff iawn o fyned i'r fynwent i geisio darllen y pethau fyddai ar gerig y beddau. A byddwn bob amser yn dyfod oddiyno gan feddwl y byddwn inau farw, er mor ieuanc oeddwn. Ac yr ydwyf yn credu byth mai peth da iawn i blant ydyw myned yn awr ac eilwaith i fynwentydd, i gerdded rhwng y beddau, a cheisio dysgu darllen y gwersi fyddo yn argraffedig ar y cerig. Dyma Englyn sydd wedi ei argraffu ar lawer o gerigbeddau mewn gwahanol fynwentydd."

Ti sathrwr baeddwr beddau-hyd esgyrn
Doda ysgaifn gamrau;
Cofia ddyn sydd briddyn brau,
Y dwthwn sathrir dithau.

"Nis gwn pwy wnaeth yr Englyn yna, ond dylasai enw ei awdwr fod wrth yr Englyn yn mhob man lle yr argraffwyd ef; canys y mae yn Englyn tra rhagorol. Gwnaeth ceisio dysgu darllen Beddargraffiadau yn mynwent Trefdraeth ddaioni mawr i mi pan oeddwn yn blentyn, ac yr wyf yn credu y gwna dysgu darllen, a myfyrio Beddergryff ddaioni mawr i blant gwylltion yr oes ramantol hon."

RHOSTREHWFA.

"Pan oeddwn yn bump oed symudodd fy Rhieni o Benygraig Trefdraeth i Rhostrehwfa, lle oddeutu tair milldir o Langefni. Yr wyf yn cofio y symudiad mor dda a phe buasai wedi cymeryd lle ddoe. Anfonodd Huw Rowland, Tymawr, Trefdraeth, ddwy drol a dau o feirch porthiantus wrth bob un i gludo y dodrefn i'r Cartref newydd, rhyw saith milltir. Yr oedd y tywydd yn hyfryd, a'r haul yn tywynu yn gryf; yr hyn oedd yn sirioldeb mawr i galon fy