Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth ei gario, ac eisteddais ar ei gauad er cael gorphwyso dipyn. Ac yno wrth feddwl am y ffordd faith oedd genyf of fy mlaen penderfynais y cymerwn y cortyn oedd yn mhen ol yr Arch, ac y clymwn ef wrth y cortyn oedd yn mhen blaen yr Arch, ac y rhoddwn yr Arch ar yr Afon hyd nes awn at bont y Gors, ac yno y cawn y ffordd bost hyd Bentreberw. Ac wedi clymu y cortyn wrth eu gilydd tynais yr Arch hyd yr Afon, ac yr oedd yn nofio yn hwylus, ac nid oedd dim dwr yn myned iddi, oblegid yr oedd wedi ei bygu yn dda oddi mewn. Wedi dyfod at Bont y Gors bu raid i mi dynu yr Arch o'r dwr, a phan oeddwn yn ei sychu a glaswellt cyn ei roddi ar fy ngefn i fyned i ben fy nhaith yr oedd dau ddyn ar ben wal y Bont uwch fy mhen, a dywedasant wrth bawb beth a welsant, ac aeth stori yr Arch ar yr Afon drwy yr holl wlad fel tán gwyllt. Oni bai am y ddau ddyn ar y bont buasai y ffaith wedi pasio yn ddigon distaw. Ond nid oedd neb yn gweled bai arnaf fi fel hogyn am gymeryd yn fy mhen i nofio yr Arch, ond yr oedd pawb yn beio John Evans am wneud i mi ei chario."

Ni fu yn hir ar ol hyn yn ngwasanaeth y gwr yma, er iddo gael cynig cyflog da ganddo am aros ond gwrthododd, ac aeth i weithio ei grefft am dymor yn Bangor, Ebenezer[1], Aberypwll a lleoedd eraill.

Dychwelodd yn ol i Fon oddeutu y flwyddyn 1847, ac yn fuan wedyn codwyd ef i bregethu gan Eglwys Smyrna, Llangefni. Dechreuodd feddwl am Farddoni a phregethu tua'r un adeg. Dyma ei nodiad ef am ei bregeth gyntaf, "Yn Ysgubor fy Nhad ar Rhostrehwfa y gwnaethym y bregeth gyntaf erioed, a dyma y testyn,—'Y mae afon ai ffrydiau a lawenhant ddinas Duw; Cysegr preswylfeydd y Goruchaf.' Nid anghofiaf byth y pleser a gefais wrth fyfyrio y bregeth hono"

  1. Deiniolen