Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wyn o Wyrfai. Ymgeisiodd hefyd am y Gadair yn Eisteddfod Genhedlaethol Pwllheli. Y testyn oedd Noddfa." Cadeiriwyd Dyfed yno. Yn ychwanegol at hyn gallwn wneud yn hysbys fod yr ysbryd Cystadlu wedi ei ddilyn hyd ochr y bedd, a phan y tu hwnt i'w bedwarugain mlwydd oed. Yr oedd pan y tarawyd ef yn sal o'r clefyd y bu farw o hono, sef yn mis Medi 1905, bron wedi gorphen Awdl ar "Yr Ewyllys" ar gyfer Eisteddfod y Calan yn Utica, yr Unol Daleithiau.