Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Didwyll ysbrydion hen dadau—y beirdd
Ar ben y mynyddau,
Ront glod i'n Heisteddfodau,—clywch berdant
Eco eu moliant goruwch y cymylau!

Er huno y gwyr anwyl,
Awenog hen gawri 'n gwyl,—
Dyrch o glogyrnog gernydd—Arfon wèn,
Broydd hen Awen, y Beirddion newydd.

A mawrhydi Cymrodwyr,
Beiddiwn waith, a byddwn wyr.
Ail gyfyd måd Feirniadon—bendigaid,
A daw Homeriaid o ludw y meirwon!

Gwelwch engyl yn gwyliaw
Ein drych yn yr wybren draw,—
Amneidiaw maent yn llawen
Heddyw ar ein Gorsedd wèn.

Rhag tynged y melltigedig—wawdiwr
A'i giwdodau ffyrnig;
Trwy ruchion melldithion dig,—o gernydd,
Holl furiau 'r caerydd llefara 'r cerig!

Yn arwydd ein gloewon eiriau—ymffrostiwn,
Yn llu ymunwn dan ein llumanau,—
Yn Mangor gwnawn ein gorau—fel brodyr—
Byw eon arwyr dan ein banerau.

Dan farn daw'r Wyddfa 'n garnedd—a'i hesgyrn
A losga cynddaredd,—
Cyn y llosgir, syflir sedd
Gwroniaid y gwirionedd.