Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1896
ar Wicipedia






AGORIAD

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANDUDNO

MEHEFIN,

30ain 1896.

I.

CORN GWLAD

II.

GWEDDI-YR-ORSEDD

Dyro, Dduw, dy nawdd,—
Ac yn nawdd, nerth,—
Ac yn nerth, deall,—
Ac yn neall, gwybod,—
Ac yn ngwybod, gwybod y cyfiawn,—
Ac yn ngwybod y cyfiawn, ei garu,—
Ac o garu, caru pob hanfod;
Ac ymhob hanfod, caru Duw,—
Duw a phob daioni.


III.

GWEINIO Y CLEDD.

Y GWIR YN ERBYN Y BYD

YN NGWYNEB HAUL, LLYGAD GOLEUNI.

Llais uwch adlais—A oes heddwch?
Llef uwch adlef—A oes heddwch?
Gwaedd uwch adwaedd—A oes heddwch?
Iesu nâd gamwaith—Llafar bid lafar.