Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DYN IEUANGC YN HARDD.

Y mae pob peth ieuangc yn hardd. Y mae y pren tra yn ieuangc yn hardd. Mor brydferth yw y pren afalau tra y mae yn ieuangc. Y mae yr olwg arno yn deilio, yn blodeuo, ac yn ffrwythloni, yn un o'r pethau harddaf yn natur. Ond y mae yr olwg arno wedi myned yn hen geubren yn wahanol iawn. Y mae y march ieuangc yn dlws iawn. Edrycher arno yn prancio ar y maes, ac yn neidio a'i draed i fynu, a'i glustiau i lawr, y mae ei hoender, a'i yni, yn annisgrifiadwy.

Ond edrycher arno ar ol heneiddio, a'i esgyrn yn tremio ar eu gilydd, a'r Cigfrain yn crawcian uwch ei ben! Ond edrycher ar y baban yn ei gryd dyna lle gwelir harddwch! Craffer arno wedi cyraedd ei un arhugain oed. Gweler dyn ieuangc un arhugain oed y wlad. Wedi cael tad a mam iach. Gwaed pur, heb ei gymysgu a gwaed afiach cenhedloedd eraill. Mêr-iach yn ei esgyrn, a hwnw yn berwi yn wresog drwy ei holl gymalau.

Gwrid iechid yn cochi ei fochau tewion. Llygaid gloewon yn flamio fel mellt yn ei ben. Gweler ef yn sefyll ar war y mynydd, a'i fochau trwchus yn gorwedd ar ei ysgwyddau, ai het ffelt am ei ben, yn canu bâs nes siglo y creigiau. Edrycher ar fachgen un arhugain oed y dref O! y mae yn fain! Y mae yn ddigon main i fyned rhwng dafnau gwlaw heb wlychu! Ond y mae mam bachgen y wlad, a bachgen y dref, yn gofyn, Beth fydd y bachgen hwn?