Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn swn pregethau hirion nad oedd neb yn blino arnynt, a meddianwyd yntau gan yr un ysbrydoliaeth. Aeth i fewn i linell y goreuon o'r tadau, a chredai mai cam a'r efengyl oedd troi pregeth yn bwt o anerchiad, a ffwrdd a hi. "Mesur da, dwysedig, ac yn llifo drosodd," oedd rheol Hwfa, ac nid ymgynghorai a chig a gwaed yn ei swydd.

Yr oedd ei bregeth yn gyfuniad o feddwl, ac o ddawn; a'r naill yn gweddu i'r llall, a'r ddau yn gweddu i Hwfa. Symudai yn mlaen yn araf, yn ddystaw, ac yn hollol hunan feddianol. Parablai yn groew, a'i Gymraeg yn soniarus, a theimlid cyn hir fod blas awen ar rai o'i frawddegau. Deuai ambell air aruthrol i'r golwg, nad oes hawl gan neb ond beirdd i'w ddefnyddio-gair fuasai yn berygl i beirianau llafar dyn cyffredin. Erbyn hyn, gwelid y gynulleidfa yn ymfywiogi, ac yn rhoi ei hun mewn trefn i fwynhau. Cyn hir, torid ar lyfnder ei leferydd gan ysbonge uchel ar air, a thawelai yn ol eilwaith, wedi taro'r gwamal a rhyw haner dychryn. Cynyddai'r dyddordeb fel y cynyddai'r hwyl, ac yn sydyn, dyna floedd ddieithr arall yn diweddu mewn sibrwd. Byddai yn foddfa o chwys erbyn hyn, ac ysgydwai ei wallt bir, fel llew yn ysgwyd y gwlith oddiar ei fwng; ac wedi hir fygwth, gollyngai ei dymhestloedd yn rhydd. Ond po fwyaf y taranai, anhawddaf ei ddeall, am ei fod yn taranu yn wahanol i bawb eraill. Ymgollai ambell air yn y cynhwrf, gan ein gadael i ddyfalu beth allasai fod. Yr oedd yn ddifyr ei glywed yn bloeddio geiriau trisill, gan eu gorphen ar dri chynyg; ac fel rheol, cadwai y sill olaf bron yn llwyr iddo ei hun. Ni chlywsom neb arall yn ynganu geiriau yr un fath, ac ni chlywodd yntau ychwaith. Yr oedd yn wreiddiol hollol iddo ei hun, a champ i neb ei efelychu gydag un mesur o lwyddiant.

Y mae ei gynyrchion barddonol, gan mwyaf, o flaen y wlad, yn