Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Morris Williams (Nicander)
ar Wicipedia





NICANDER.

(GAN HWFA MON.)

Erthygl I.

Y CYNWYSIAD.

Teilyngdod Nicander o goffadwriaeth barchus—Ei wlad enedigol—Cymeriad ei deidiau a'i neiniau—Amgylchiadau ei rieni—Ei fynediad i'r ysgol y tro cyntaf Ei brentisiad yn saer coed—Ei ynediad i Gaerlleon—A'i ddyrchafiad i Goleg yr Iesu yn Rhydychain.

DYLEDSWYDD Yyw talu teyrnged o barch i goffadwriaeth yr enwogion a wasanaethasant eu gwlad mewn pethau da; a hyfryd yw olrhain eu hachau, darllen eu gweithiau, a barnu eu teilyngdod. Myna rhai pobl dalu parch i'r pethau distadlaf a berthyn i ambell i wr mawr. Mewn rhai arddangosfäau amlygir yr edmygedd mwyaf, hyd yn nod i ddarnau gwisgoedd, a gwreiddiau cilddanedd, ambell hen wron. Tybia llawer un fod mwy o swyn mewn darn o'r hen wisg oedd am gefn Wellington, ar faes Waterloo, nag sydd yn holl wisg—gelloedd ambell bendefig. Ond, fodd bynag am hyny, y mae llawer mwy o wir swyn mewn ambell fwthyn bach, lle y ganwyd ambell blentyn athrylith, nag sydd yn holl rwysgfawredd ambell frenhindy; ac y mae mwy o wir hudoliaeth mewn hen ffon ambell un, nag sydd yn nheyrnwialen ambell un arall.

Teimlir rhyw fath o foddhad cyfriniol wrth edrych ar ddarlun pob dyn mawr; o herwydd wrth ei lun y gellir dyfalu pa fath un ydoedd, o ran pryd a gwedd, ac ystum. Ymrithia delweddau ysbryd pob dyn ar wyneb ei ddarlun; ac y mae ambell ddarlun wedi ei baentio mor gywrain, nes yr ydym yn gweled y gwrthddrych fel yn fyw o flaen ein llygaid. Fel yr