Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Monachdy Bach, preswylfod ddiweddaf y bardd melus Robert ap Gwilym Ddu. Lle heb fawr o brydferthwch o'i ddeutu yw y Monachdy; ac o herwydd hyny gwnaeth y bardd Du yr englyn duchan canlynol iddo:—

"Ni allaf fyw yn holliach,—am orig
Rhwng muriau hen Fonach;
A wnaeth Ion le gwrthunach,
Och! di! byth, Fonachdy Bach."

Gwelir, oddiwrth y crybwyllion blaenorol, fod plwyf Llangybi yn dryfrith o bethau hynod; a buasai yn hawdd i ni grybwyll am lawer mwy o'i hynodion, ond y mae yr hyn a grybwyllwyd yn ddigon i roddi syniad lled gywir i'r darllenydd dyeithr am yr ardal lle ganwyd ac y magwyd y diweddar Barch. Morris Williams, A.C., (Nicander).

EI RIENI.

Tua dechreu y canrif hwn, yr oedd gwr o'r enw William Jones yn byw mewn ty o'r enw Coedcaebach, yn mhlwyf Llangybi. Yr oedd yn wr dysyml a synwyrol, ac yn grefyddwr dichlynaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu yn flaenor gyda'r enwad parchus hwn am oddeutu deugain mlynedd; a dywedir mai ei brif hynodion fel blaenor oedd ei lymder a'i onestrwydd fel dysgyblwr. Ystyrid fod ganddo chwaeth dda at gerddoriaeth; a dywedir ei fod yn deall egwyddorion y gelfyddyd yn dda. Yr ydoedd hefyd yn brydydd ffraeth a pharod; ac y mae rhai darnau tlysion o'i waith ar gael yn awr. Edrychid ar William Jones o'r Coedcaebach fel gwr llawnach o wybodaeth gyffredinol na neb o'i sefyllfa yn y plwyf; ac o herwydd hyny perchid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai. Y gwr rhagorol hwn ydoedd tad Sarah, mam Nicander, a thad Pedr Fardd o Lynlleifiad. Taid a nain Nicander, o du ei dad,