Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn galw Nicander pan ydoedd yn blentyn; ac, yn wir, felly y galwai llawer o'r hen bobl ef hyd ddiwedd ei oes. Gwelir mai tlawd oedd rhieni Nicander, ond tlawd gonest a chrefyddol, ac aelodau ffyddlon gyda y Trefnyddion Calfinaidd.

EI FYNEDIAD I'R YSGOL.

Er fod rhieni Nicander yn isel eu hamgylchiadau yn y byd, eto, yr oeddynt yn dra awyddus am i'w plant gael addysg. Dywedir y byddent, ar nosweithiau hirnos gauaf, yn gwneud eu goreu i addysgu eu plant yn yr ysgrythyrau, a hyny wrth oleu y tân; a mynegir mai eu hymddyddanion penaf fyddai am werth addysg a chrefydd. Tua yr amser yma, yr oedd gwr call, a dysgedig, o'r enw Richard Davies, yn cadw ysgol yn mhentref Llanystumdwy, ac ymddengys mai gydag ef y cafodd Nicander y manteision addysg gyntaf. Dywedir mai bara sych a phiser gwag fyddai gan Nicander yn myned i'r ysgol bob boreu, ac mai ei arferiad fyddai myned o amaethdy i amaethdy i ymofyn am ychydig o laeth i'w yfed gyda'i damaid sych yn yr ysgol. Dyna olwg darawiadol ar fachgenyn tlawd yn ceisio dringo i fyny yr allt ar lwybrau dysgeidiaeth! Bychan feddyliodd llawer un wrth ganfod y bachgen a'r bara sych a'r piser gwag yn myned a dyfod tua Llanystumdwy, mai efe a fyddai yn un o brif—feirdd ei oes. Os teimla rhyw fachgen tlawd ei feddwl yn digaloni wrth geisio addysg, bydded iddo gofio am BISER GWAG A BARA SYCH Nicander.

EI GREFFT.

Wedi bod yn yr ysgol yn Llanystumdwy am tua phedair blynedd, a phan ydoedd tua phedairarddeg oed, rhoddwydd ef i ddysgu gwaith saer coed at hen wr tafodrydd yn Mhencaenewydd, gerllaw Penymorfa. Clywsom Ellis Owen—