Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhywbeth yn Gawranacaidd ynddo. Pan glywn am un yn deilliaw o frid didalent, nid ydym yn dysgwyl fawr am dalent ynddo; ond pan glywn am un yn deilliaw o frid athrylithgar, yr ydym bob amser yn dysgwyl gweled arwydd o athrylith ynddo. Ond mae'n wir y cawn ein siomi yn aml, yn y naill fel y llall: canys gwelir bachgen llawn o athrylith yn cyfodi weithiau o deulu digon dwl; a phryd arall gwelir creadur digon hurt yn cyfodi o deulu digon talentog, yn llawn of gyfrwysder. Ond, fodd bynag am hyny, deilliodd gwrthddrych ein herthygl o frid beirdd; ac nid yn unig hyny, ond cafodd ei fagu, a'i ddwyn i fyny yn nghanol prif feirdd ei wlad. Wrth ystyried pethau fel hyn, yr oedd yn naturiol i ni ddysgwyl fod rhywfaint o'r awen farddonol yn ysbryd Nicander. Pan oedd ef yn fachgen, yr oedd y beirdd canlynol fel ser yn tywynu trwy y wlad a'i magodd :—Robert ap Gwilym Ddu, yn y Betws Fawr; Dewi Wyn, yn y Gaerwen; Sion Wyn, yn Chwilog; Sion Dwyfor, yn Llaw—weithfa Gwynfryn; Ellis Owen, yn Nghefn y Meusydd; Hywel Eryri, yn Traena, &c. Buasai braidd yn wyrth i fachgen gael ei eni o frid beirdd, a'i fagu yn nghanol y fath lu o feirdd, heb fod rhywfaint o arwyddnod yr Awen arno. Deallwn i Nicander ddechreu barddoni yn bur ifanc; canys cyfansoddodd Awdl ar y pedwar mesur ar hugain pan ydoedd tua deunaw oed. Testun yr awdl hon oedd yr enwau priodol sydd yn y Beibl. Creodd cywreinrwydd. cynghaneddol yr Awdl hon gryn syndod yn mysg beirdd Eifion; ac effeithiodd i Dewi Wyn goleddu gobeithion lled uchel am ddyfodol dysglaer i'r bardd ieuanc. Ac er mwyn i'r darllenydd gael rhyw ddirnadaeth am orchest gynghaneddol yr Awdl hon, rhoddwn iddo y dernyn hwn:—

"Selec, Iron, Salu, Cora,
Asir, Siah, Isar, Sehon,
Melci, Amnon, Milca, Imna,
Silem, Hogla, Salum, Eglon,
Meros, Hela,

MORUS WILLIAM."