Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/287

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NICANDER FEL PREGETHWR.

Yr oedd lluaws o bethau yn Nicander yn ei addasu i fod yn ddyn cyhoeddus. Yr oedd ei ymddygiad syml a boneddigaidd, pertrwydd ei barabl, clirder ei lais, coethder ei iaith, ac eangder ei wybodaeth, yn tueddu oll at ei gyfaddasu i'r areithfa. Yr ydoedd yn un o'r darllenwyr goreu ar y Beibl a glywsom erioed. Byddai ei glywed yn darllen penod o'r ysgrythyr yn gystal ag esboniad arni. Bu yn aros gyda ni am ddwy noswaith, pan oeddym yn byw yn Dolawen, ger Bethesda; ac nid anghofiwn, yn fuan, ei ddull dirodres yn darllen ac yn gweddïo hwyr a bore, wrth gadw dyledswydd. Ni allasai neb feddwl arno, wrth ei glywed yn ddarllen y sylwadau yn Meibl Peter Williams, ac wrth ei glywed yn gweddïo o'i frest, ei fod erioed wedi bod yn gwisgo gwenwisg; o herwydd yr ydoedd ei ddull yn llawer tebycach i hen bregethwr Methodistaidd nag i berson eglwys. Prif ddull Nicander o bregethu oedd y dull esboniadol, ond byddai weithiau yn ymddyrchafu i hwyl a gwres nefolaidd. Clywsom iddo unwaith rwygo ei wenwisg wrth daflu ei freichiau, a churo ei ddwylaw mewn hwyl orfoleddus. Ond eithriad i'w drefn o bregethu oedd ymollwng i hwyliau felly. Clywsom hefyd y byddai yn pregethu llawn cystal pan y byddai y clochydd ac yntau, ac ychydig o hen wragedd, yn bresenol, a phan y byddai llonaid y cathedral yn ei wrando; ac yr oedd hyny yn ganmoladwy ynddo; ac yn addysg dda i lawer pregethwr Ymneillduol, sydd yn cael ei ddylanwadu gan nifer ei wrandawyr. Efallai na bu pregethwr mor ysgolheigaidd erioed yn pregethu i gynulleidfaoedd llai nag y bu Nicander. Gresyn na fuasai gwr o'i fath yn cael lle teilyngach o'i dalentau dysglaer. Ond efe a fu farw; ac mae y wlad yn teimlo, ac yn galaru ar ei ol. Os gofyn rhywun