Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/298

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

calon o lawenydd wrth eu gweled, a'u clywed yn canu mor dda. Yr oedd erbyn hyn yn dechreu hwyrhau, ac aethom ninau i edrych ar yr haul yn machludo, o herwydd yr oeddym wedi clywed lawer gwaith, fod golwg ar yr haul yn machludo ar y mor, yn un o'r golygfeydd mwyaf gogoneddus, ac yr oeddym yn awchus i gael golwg iawn arno. Aethom i fan cyfleus ar y bwrdd, a chawsom olwg na anghofiwn mo honi byth. Yr oedd y cawr i'w weled yn fwy, ac yn wridgochach, nag y gwelsom ef erioed o'r blaen. Yr oedd yr olwg arno yn ymsuddo o'n golwg, i eigion y mór, y noson hono, yn ofnadwy ogoneddus! Yn rhy ogoneddus i neb allu ei ddarlunio! Ar ol ei fachludiad, prudd-gochai yr holl ffurfafen uwchben.

Ac ael anian wisgai gwsg leni,-a rhydd
Wisgai'r hwyr yn ei dlysni;
Yma yn awr canfyddem ni
Emau'r haul hyd y môr heli!

Wedi ein synu yn mawredd y rhyfeddodau, teimlem ein hunain yn llesgau, ac aethom i'n gwelyau i orphwys. Ond cyn y boreu cawsom ein deffroi gan grygleisiau ofnadwy Corn y niwl! Ac erbyn i ni fyned ar y bwrdd, yn y boreu, yr oedd y niwl fel tywyllwch yr Aipht, wedi ein hamgau; ac yr oedd y corn yn rhuo nes rhwygo ein clustiau. Erbyn hyn, yr oeddym ninau yn dechreu dychrynu, canys clywsom ganwaith, mai gelyn gwaethaf y morwr yw niwl; ac oblegid hyny, yr oeddym mewn pryder, rhag ofn dyfod i wrthdarawaid à rhyw long arall. Fodd bynag, tewychu yr oedd y niwl, a pharhau i ruo yr oedd y corn, a rhwng y naill a'r llall, yr oeddym ni wedi myned i deimlo yn anhapus iawn. Ond yn mhen amser maith, daeth pwff o wynt o rywle, a chwalwyd y niwl, a dechreuodd yr awyr glirio, a daethom i weled y môr fel o'r blaen. Ar hyn, clywem rywun yn gwaeddi Whale, nes oedd y Teutonic yn