Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i iaith y bobl; ac y mae'n ddiau i fin a thlysni Cymraeg Goronwy gadw'n fyw lawer priod—ddull tlws yn nhafodiaith y sir. A phan ychwaneger ddarfod i'r ddau ddenu'r werin i ddarllen y Beibl, nid rhyfedd fod y fath rym a graen ar Gymraeg yr ynys. Ac yn wir, y mae Cymraeg cryf, seinber, yn nodwedd amlwg ym mhob pregethwr mawr a godwyd ym Môn o ddyddiau Elias hyd yn awr. Dysgodd Hwfa Gymraeg Môn pan oedd y dafodiaith yn arf wedi ei loywi gan athrylith ddisgleiria'r wlad, ac er i'r ysfa am fathu geiriau ddifwyno llawer ar ei arddull, y mae arogl Cymraeg pêr ar ei waith, er yr holl afraid i gyd. Yr oedd yn ddihefelydd am yngan y Gymraeg. Pwy a allai ruglo ll' ac' ch' fel Hwfa Môn ? ac mor òd o felus y llithrai dros lafariaid yr hen iaith! Megis dwndwr nant y mynydd yn erbyn cymal o graig, ydoedd ei barabliad o glec a gwrthglee y gynghanedd yn y fèr awdl' ar agoriad yr Eisteddfod. Gorchwyl pur hawdd a fai dangos drymed yw cysgod y wlad dros ganu'r beirdd Cymreig, a phob math ar lenydda diweddar. Nid yw bywyd y ddinas fawr yn ei ruthr ofnadwy wedi ei farddoni yng Nghymru eto, a hynny am nad yw wedi ei fyw yma, canys cyfyd canu cenedl o'i bywyd mor naturiol ag y tyf glaswellt gwlad o'i daear. Yr oedd meddwl Hwfa, fel y mwyafrif o feirdd Cymru, wedi ymlinynnu mewn dwyster, cyfriniaeth, ceidwadaeth a rhyw ddiffyg cywirdra rhyfedd; a phriodolwn hyn i raddau pell i ddylanwad y wlad—yn arbennig nos y wlad, ar ei ddatblygiad. Yn wir, ni cheir nos yn y dre' boblog, canys llewyrcha'r nwy yno cyn machlud haul a llysg hyd godiad gwawr ymron; ac yn lle hwyrnos dawel tyr swn gorhoian ac wylofain cymhlith, beunos ar glyboedd y trefwr.. Ond yn y pentre' gwledig, mwynheir lledrith y llwydoleu yn swn ofergoel a chân heb gymaint a chanwyll frwyn mewn gwrthryfel a'r gwyll. Gyda'r nos daw llanw'r ysbrydol i'r wlad, bydd gwersyll o ysprydion ym mhob perth, a gwylliaid annaearol ym mhob ceunant, ac o bydd raid ymdaith i bell ym min hwyr ceisir cwmni'r ci i gadw'r ysprydion draw. Dyna nos Môn pan oedd Hwfa'n blentyn, a phan gofiwn i'w ddychymyg byw droi twmpathau'r wlad yn breswylfeydd angylion lawer tro,