Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pell yn gyfrifol am hyn: canys y mae ysfa'r gynghanedd wedi arwain llawer i fardd cyn hyn ar ddisperod—i ystumio iaith ac i frawddegi'n llac; ac un o lawer o bechaduriaid— anrhydeddus ddigon mewn ystyron eraill—ydoedd Hwfa Môn yn y cyfeiriad hwn. Dylid cofio cofio hefyd nad ydoedd cyfnod yr Uchfeirniadaeth Gymreig wedi gwawrio yn nyddiau anterth Hwfa: yn wir, weithian y mae y Cyfnod hwnnw'n gwawrio. Ac nid yw ond teg beirniadu pob bardd yng ngoleuni ei oes ei hun. Ac felly y'nglŷn â Hwfa Môn.

Wrth edrych drwy y Ddwy Gyfrol o'i Waith Barddonol, cyfarfyddir â thoreth o farddoniaeth ddisglair yn y Mesurau Rhydd. Weithiau, synnir ni gan feiddgarwch ei ddychymyg, tynerwch ei gyffyrddiadau, ac yn bendifaddeu gan gywirdeb a bywiogrwydd ei ddisgrifiadau. Ac yma gellir sylwi mai bardd disgrifiadol ydoedd yn bennaf: nid oedd yn perthyn o'r ganfed ach i'r Ysgol honno a adweinir fel Ysgol y Bardd Newydd. Na,—Hên Fardd ydoedd Hwfa—hên fardd cryf a rhadlon a thrwyadl—Gymreig. Fel ei gorph, felly yntau: hên dderwen braff, aml—geinciog, a chaeadfrig ydoedd,—â'i brigau yn gwybod dim ond am awelon Cymreig: dyna Hwfâ.

Gwyr pawb am ei gân i'r "Ystorm." Ni chaniatâ gofod i mi ddyfynnu'n helaeth o unrhyw ddarn o'i eiddo. Sylwer ar y cyferbyniad yn y ddau ddarlun hyn:—

Gorwedda'r defaid
Yn y twyn,
I wrandaw cerdd
Y bugail mwyn;
Breuddwydia'r gwartheg
Dan y pren
A'r borfa'n tyfu
Dros eu pen!

Mae'r adar mån
Yn gan i gyd
Yn pyncio'u dawn
Am rawn yr yd:
Mae natur fel
Nefolaidd fun
Yn hoffi siarad
Wrthi 'i hun!

Ond—dyna udgorn yr ystorm wedi galw; a dacw'r elfennau'n ufuddhau:—