Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.

Yr oedd cystadlu yn fynych yn un o nodweddion y beirdd tua chanol y ganrif ddiweddaf. Nid oedd safle nac oedran yn gwneud dim gwahaniaeth. Fel y cyfeiriais eisoes at Eben Fardd yn ceisio am y gadair ychydig amser cyn marw ohono yn henafgwr ymron. Enillodd efe wobr fawr yn y Trallwm yn 1824, a pharhaodd i ymgeisio am ddeunaw mlynedd a'r hugain wedyn, heb neb yn codi ei law na'i lais yn erbyn. Y mae erbyn hyn gri yn cael ei ddylai neb enill cadair genedlaethol fwy nag unwaith; ac y dylai pob bardd roi i fyny ei ymdrechion Eisteddfodol ar ol cyraedd tua chanol oed. Yn hytrach, mawrheid y ffaith fod beirdd oedranus ymysg y cystadleuwyr gynt. Gwnaeth Hwfa Mon ei ran yn dda fel ymgeisydd hefyd. Ei gadair gyntaf oedd un Llanfairtalhaiarn yn 1855, am ei awdl ar "Waredigaeth Israel o'r Aifft." A'r un flwyddyn enillodd gadair yn Eisteddfod Machraeth, Mon, am ei awdl ar "Y Bardd." Cyn cael y ddwy gadair hyn yr oedd wedi enill tlysau lawer. Tlws arian yn 1851 yn Eisteddfod Fflint am englyn beddargraff "Robert Eyton, Ysw": a thlws arian arall yn yr un Eisteddfod am Osteg o Englynion i'r "Palas Gwydr": wele ddwy fuddugoliaeth fuan iddo ar ol ei urddo yn fardd. Yr un flwyddyn yr oedd yn Eisteddfod Lerpwl yn gweld y llawenydd direol oedd yno am i Ieuan Gwynedd enill gyda'i bryddest ar "Olygfa Moses o ben Pisgah"; ac enillodd yntau yn honno ar englyn. Yr oedd wedyn yn fuddugwr yn Nhremadoc yn 1851, ar Doddaid i "Ddafydd Ionawr," un o eisteddfodau pwysig canol y ganrif; lle 'r oedd Hiraethog yn fardd y gadair ac Emrys yn cipio'r gwobrwyon am y farddoniaeth rydd, ac Eben Fardd yn ben beirniad. Gwelir fel hyn fod Hwfa wedi anturio i'r dyfroedd nofiadwy yn ddiymdro a'i fod yn dechreu teimlo ei nerth. Un arall o'r Eisteddfodau mawrion oedd eiddo Llangollen, 1858, a chafodd y dorch cyd-fuddugol o'i du yno am y Cywydd ar "Y Gweddnewidiad" yn honno hefyd yr arweiniodd Ceiriog ei Fyfanwy i sylw y genedl, ac y dangosodd Eben