Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V.

Y CYHOEDDIAD.

Pan yw oed Crist yn fil wyth gant naw deg a phump, a chyfnod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ngwyl yr Alban Elfed sef cyfnod Cyhydedd Haul y Mesuryd, ar ol y gwys a'r gwahawdd i Gymru oll gan gorn gwlad o'r amlwg, yn ngolwg, yn nghlyw gwlad a Theyrnedd, dan osteg a rhybudd un dydd a blwyddyn. Cynhelir Eisteddfod a Gorsedd wrth Gerdd yn nhref Llanelli yn nghantref Carnwallon yn Swydd Caerfyrddin, ag hawl i bawb o geisiont Fraint a Thrwydded wrth Gerdd Dafawd a Barddoniaeth i gyrchu yma yn awr Cyntefin Anterth lle ni bydd noeth arf yn eu herbyn; ac yma yn erwynebol y Tri Chyntefigion Beirdd Ynys Prydain nid amgen Plenydd Alawn a Gwron; ac yma Cynhelir Barn Cadair a Gorsedd ar Gerdd a Barddoniaeth, ac ar bawb parth Awen a buchedd a gwybodau o geisiont Fraint ac Urddas a Thrwyddedogaeth yn nawdd Cadair Llanelli yn nghantref Carnwallon.

Llafar bid Lafar. Y gwir yn erbyn y byd.
Iesu na'd Gamwaith.

Yna "Cainc ar y delyn." "Anerchiadau y Beirdd" ac i orffen "Arawd."

Yr ydym wedi dodi cynwys y copi hwn i lawr: gall y bydd yn help ryw dro i ryw Archdderwydd helbulus fydd mewn perygl o anghofio ei wers. Nid oes angen aros yn hwy gyda'r ochrau hyn i fywyd yr anwyl a'r eithriadol Hwfa Mon. Clywsom am arlunydd enwog o Loegr dreuliodd haf yn Nghymru, gan grwydro rhwng clogwyni glaslym y Wyddfa, a thrwy ogoniant a rhamant Bettws-y- Coed gwr welodd fireinder Dyffryn Clwyd a rhuthr yr ysblander tua Drws Ardudwy. Eisteddodd ar dywodfryn aur yn gwylio 'r Fenai yn llathru, a'i hwyneb yn llosgi rhwng erchwynion Mon ac